Torticollis Babanod Newydd-anedig

Ystyr torticollis yn Lladin yw 'gwddf troellog'.

Mae’n gyffredin gweld hyn ar ôl genedigaeth, neu gall ddatblygu yn ystod misoedd cyntaf bywyd.

Gall gael ei achosi pan fydd y cyhyr yn y gwddf yn tynhau (sternocleidomastoid). O ganlyniad, bydd pen y babi yn gogwyddo i un ochr ac yn troi i’r ochr arall. Efallai y bydd gan y babi ffafriaeth troi pen a/neu plagioceffali cysylltiedig.

Dylai ffisiotherapydd adolygu babanod sy’n dangos symptomau torticollis.

Baby with neck to one side / Baban gyda gwddf ar un ochr

Beth sy’n achosi torticollis?

Nid yw’r hyn sy’n ei achosi bob amser yn hysbys. Mae ffactorau sy’n gysylltiedig â thorticollis yn cynnwys:

  • Ystum yn y groth.
  • Mewn ystum o chwith yn y groth.
  • Genedigaeth â chymorth neu â gefeiliau.
  • Pwysau geni mwy.
  • Ystum ailadroddus ar ôl genedigaeth, lle mae babanod yn edrych i un ochr yn aml.
Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.