Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Parlys Plecsws Breichiol Obstetreg

Mae’r plecsws breichiol yn rhwydwaith o nerfau yn y gwddf sy’n gwasanaethu’r cyhyrau a’r synwyriadau yn y breichiau.

Mae anafiadau i’r nerfau hyn yn gallu digwydd yn ystod genedigaeth pan fydd y plecsws yn dioddef tyndra. Weithiau, mae’n gysylltiedig â’r ysgwydd yn mynd yn sownd yn ystod genedigaeth (dystocia’r ysgwydd).

Baby on side / Amser bola babi

I rai, mae Parlys Plecsws Breichiol Obstetreg yn digwydd pan fydd baban yn fawr a/neu yn ystod cyflwyniad ffolennol. Mae gwahanol fathau o anafiadau sy’n dibynnu ar lefel y pwysau sy’n cael eu rhoi ar y plecsws a nifer y nerfau sy’n cael eu heffeithio.

Ymarferion Ystod Symudiad

Mae ymarferion ystod symudiad yn symudiadau sy’n cael eu gwneud i freichiau eich baban er mwyn sicrhau bod y cymalau’n symud yn llawn.

Dylai’r ymarferion hyn gael eu gwneud yn araf a’u dal ar ddiwedd yr ystod symudiad am o leiaf 10 eiliad. Dylid gwneud yr ymarferion hyn o leiaf deirgwaith y dydd gyda phob ymarfer yn cael ei ailadrodd deirgwaith oni bai eich bod wedi cael cyngor gwahanol gan eich ffisiotherapydd.

Bydd llawer mwy o gyfleoedd i wneud yr ymarferion ymestyn hyn yn ystod amser bath ac adegau pan fydd eich plentyn yn cael ei gofleidio, ei ddal neu newid ei ddillad.

Ymarferion ysgwyddau
  • Gafaelwch yn ysgafn ym mlaen braich eich baban a daliwch lafn yr ysgwydd yn gadarn gyda chledr eich llaw. 
  • Yna, codwch fraich eich baban uwch ei ben yn araf gan gadw’r fraich yn agos at y glust a’i dal felly.
  • Mae’r ymarfer hwn yn debyg i bump uchel.
  • Codwch ysgwydd eich baban hanner ffordd a phlygwch y penelin i 90°.
  • Gan gynnal y safle hwn, cylchdrowch fraich y baban am yn ôl fel bod y fraich yn cyffwrdd â’r gwely a dal y fraich yno.
  • Dyma’r ymarfer pwysicaf.
  • Plygwch benelinoedd eich baban i 90 ° a chadwch y penelinoedd yn sownd i ochr corff eich baban. 
  • Trowch flaen y breichiau i’r ochr ac i lawr tuag at yr arwyneb a’u dal felly.
Ymarferion penelin
  • Daliwch fraich eich baban uwchben ac o dan y penelin.
  • Cadwch gledr llaw eich baban wedi’i throi i fyny.
  • Sythwch benelin eich baban yn ysgafn ond yn gadarn a’i dal felly.
  • Yna plygwch benelin eich baban a’i dal felly.
  • Cadwch benelin eich baban ar ongl 90 ° gyda rhan uchaf y fraich yn erbyn ei gorff.
  • Dechreuwch gyda chledr llaw eich baban yn wynebu am i lawr. 
  • Trowch ran uchaf braich eich baban am i fyny nes bod cledr ei law yn wynebu i fyny a’i dal felly
  • Yna trowch ran uchaf ei fraich nes bod cledr y llaw yn wynebu am i lawr a’i dal felly.
Ymarferion arddwrn a bysedd
  • Daliwch arddwrn eich baban yn un llaw a’i law yn eich llaw arall.
  • Plygwch ei arddwrn yn ôl yn ysgafn a’i dal felly.
  • Yna sythwch ei fawd a’i ddal felly
  • Daliwch arddwrn eich baban yn un llaw a’i law yn eich llaw arall.
  • Plygwch ei arddwrn yn ôl yn ysgafn a’i dal felly.
  • Yna sythwch ei fysedd a’u dal felly.
Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content