Mae cryfder yn ein craidd yn rhan bwysig o gadw’n heini. Gall teimlo’n sigledig neu’n wan fod o ganlyniad I wendid yn eich craidd.
Mae yna nifer o resymau pam y gallech fod wedi colli rhywfaint o gryfder craidd, gan gynnwys poen, cyfnod estynedig o ddiffyg gweithgared, blinder neu gyflwr iechyd hir dymor.
Bydd yr ymarferion ar y dudalen hon yn eich helpu chi i ailadeiladu lefel uwch o gryfder yn eich cyhyrau craidd. Gall yr ymarferion helpu gyda phoen, gwendid neu deimlo’n sigledig.