Mae dychwelyd adref o’r ysbyty yn gam cadarnhaol mawr yn eich adferiad yn dilyn eich salwch, ond gall fod yn frawychus cael llai o gymorth a chyngor nag yr oeddech chi wedi ei gael yn yr ysbyty.
Mae’n arferol teimlo bod rhai gweithgareddau dyddiol yn fwy anodd ar ôl bod mewn gofal critigol.
Mae’n bwysig cymryd eich adferiad un dydd ar y tro a gwrando ar eich corff. Mae’n anodd rhoi amserlen ar eich adferiad gan fod pawb yn gwella’n wahanol. Gall adferiad ddibynnu ar sawl peth, e.e. pa mor hir y gwnaethoch chi ei dreulio mewn gofal critigol, natur eich salwch a pha mor heini a gweithgar oeddech chi cyn eich salwch.
Mae’r adnoddau isod wedi’u cynllunio i’ch helpu chi i ddeall a rheoli eich symptomau. Cliciwch ar y tabiau isod i ddod o hyd i fwy o wybodaeth am achos y symptomau a sut i’w rheoli:
Mae’r cyngor isod wedi’i gynllunio er mwyn rheoli diffyg anadl tymor hir. Os oes gennych chi ddiffyg anadl a/neu boen yn y frest yn barhaus, gofynnwch am gymorth meddygol brys.
Pam ydw i’n teimlo’n fyr o anadl?
Yn aml, pan fydd pobl mewn gofal critigol, byddan nhw angen cymorth peiriant anadlu i’w helpu i anadlu. Ar ôl bod ar beiriant anadlu, mae’n arferol profi diffyg anadl, wrth i’ch corff addasu i orfod anadlu ar ei ben ei hun eto. Weithiau gall hyn fod yn anoddach os mai problem gyda’ch brest oedd y rheswm y cawsoch ofal critigol, neu os oeddech chi wedi datblygu haint ar y frest yn ystod eich arhosiad yno.
Efallai y byddwch chi hefyd yn gweld eich bod yn mynd yn fwy byr o anadl nag oeddech chi cyn cael eich derbyn i’r ysbyty oherwydd gwendid cyffredinol a blinder a all ddigwydd ar ôl bod mewn gofal critigol.
Gall y teimlad o fod yn fyr o anadl fod yn frawychus iawn; gall hyn achosi pryder sy’n aml yn gwneud anadlu’n anoddach. Pan fydd hyn yn digwydd, efallai y byddwch yn teimlo fel petaech mewn cylch sy’n anodd ei dorri. Isod mae rhai technegau a allai eich helpu i dorri’r cylch hwnnw. Mae pawb yn canfod technegau a strategaethau defnyddiol gwahanol ac mae’n bwysig archwilio gwahanol ddewisiadau a dod o hyd i’r hyn sy’n gweithio orau i chi.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth ynghylch rheoli eich anadlu ar ôl salwch critigol, cliciwch ar y ddolen isod:
Pam ydw i’n teimlo’n wan?
Mae’n gyffredin iawn i bobl brofi gwendid yn y cyhyrau cyffredinol yn dilyn cyfnod mewn gofal critigol. Gall hyn effeithio ar lawer o wahanol agweddau o fywyd bob dydd, er enghraifft:
Efallai y byddwch chi’n profi anystwythder yn eich cymalau a allai achosi poen i chi hefyd. Mae hyn yn normal a bydd y tîm cyfan yn gweithio gyda chi i adennill eich cryfder, eich swyddogaeth a’ch annibyniaeth.
Mae nifer o ffactorau a all gyfrannu at wendid yn y cyhyrau yn dilyn salwch critigol. Yn ystod yr amser pan oeddech chi’n sâl iawn, mae’n debygol eich bod chi wedi treulio’r rhan fwyaf o’r amser yn y gwely, yn enwedig ar y dechrau. Pan nad ydych chi’n defnyddio’ch cyhyrau, maen nhw’n gallu gwisgo’n gyflym iawn ac achosi i chi fynd yn wan. Mae hyn yn gallu bod yn waeth pan fyddwch chi wedi bod yn sâl iawn gan fod eich corff yn blaenoriaethu ymladd yn erbyn y salwch yn hytrach na chynnal eich cyhyrau.
Gall rhai pobl brofi math o niwed i’r nerfau hefyd ar ôl bod mewn gofal critigol a gall hyn ei gwneud hi’n anodd iawn ysgogi a defnyddio eich cyhyrau.
Gwendid yn y cyhyrau a llai o symuded
Wrth i chi wella rydych chi’n defnyddio offer gwahanol i’ch helpu i godi o’r gwely, gwneud tasgau bob dydd, sefyll a cherdded.
Mae’r dolenni canlynol yn dangos rhai ymarferion y gallech chi eu gwneud i’ch helpu i adennill rhagor o gryfder a symudedd.
Pan fyddwch chi’n cael eich rhyddhau o’r ysbyty, efallai y byddwch chi’n mynd adref gyda chymorth cerdded, fel ffon neu ffrâm Zimmer. Er y gall y cymhorthion hyn fod yn ddefnyddiol iawn i’ch cadw’n ddiogel, gallan nhw fod yn feichus ac yn gyfyngol. Drwy gynyddu eich cryfder corfforol a gwella eich balans, efallai y byddwch chi’n gallu lleihau eich dibyniaeth ar eich cymorth cerdded. Mae’r ymarferion isod wedi’u cynllunio i’ch helpu gyda hyn.
Pan fyddwch chi’n dechrau’r ymarferion, mae’n bwysig eu gwneud wrth eich pwysau. Gall gwneud gormod yn rhy fuan eich blino a gwneud i chi deimlo’n wannach. Dechreuwch drwy wneud nifer fechan o bob ymarfer, er enghraifft 5-8, unwaith y dydd. Gallwch gynyddu’r anhawster dros amser drwy gynyddu nifer yr ailadroddiadau, gwneud yr ymarferion fwy nag unwaith y dydd, neu ychwanegu pwysau llaw/pigwrn.
Byddwch yn gwybod eich bod chi’n gwneud yr ymarferion yn gywir os byddwch chi’n teimlo ychydig bach o boen yn eich cyhyrau, ond nid poen difrifol. Byddwch yn gwybod eich bod chi’n gwneud y nifer iawn o ymarferion pan fydd yr ailadrodd olaf o bob ymarfer yn ymdrechus, ond heb fod yn rhy anodd.
Mae’n bwysig cynhesu ac oeri bob tro wrth wneud pob math o ymarfer corff.
Wrth wneud yr ymarferion cydbwysedd, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n blaenoriaethu eich diogelwch bob amser. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n sefyll ger rhywbeth cadarn y gallwch chi ddal gafael arno os oes angen.
Gall ffactorau eraill gyfrannu at lai o symudedd ar wahân i gryfder a chydbwysedd, er enghraifft blinder a diffyg anadl. Gweler yr adrannau ar y pynciau hyn am wybodaeth a chyngor ychwanegol.
Os ydych chi wedi ceisio lleihau eich dibyniaeth ar eich cymorth cerdded ond heb fod yn llwyddiannus neu’n teimlo’n anniogel wrth geisio gwneud hyn ar eich pen eich hun, efallai y bydd yn helpu i gael ffisiotherapydd i ymweld â chi gartref. Efallai eich bod wedi cael eich cyfeirio at y gwasanaeth hwn pan gawsoch chi eich rhyddhau o’r ysbyty. Os nad yw hyn wedi digwydd, cysylltwch â’ch meddyg teulu i gael eich cyfeirio at Ffisiotherapi.
Os oes gennych chi gymorth cerdded gartref nad ydych yn ei ddefnyddio mwyach, gallwch ei ddychwelyd i:
Pam ydw i’n teimlo’n fwy blinedig?
Ar ôl cael eich derbyn i ofal critigol mae’n arferol teimlo’n llawer mwy blinedig, yn gorfforol ac yn feddyliol, wrth gyflawni gweithgareddau bob dydd. Yn ystod eich arhosiad yno, efallai eich bod wedi cael eich llonyddu ac mae’n debyg y byddwch chi wedi treulio’r rhan fwyaf o’r amser yn y gwely. Pan fyddwch chi’n dechrau gorfod gwneud pethau drosoch eich hun eto mae’n newid mawr a gall fod yn flinedig iawn. Gall blinder bara rhwng tri neu bedwar mis neu hyd at flwyddyn, neu ragor.
Pwysigrwydd ceisio cryfhau fel y teimlwch chi sydd orau
Mae angen i chi ddysgu rheoli eich blinder ar eich cyflymder chi eich hun, drwy wneud pethau bob hyn a hyn, mewn sesiynau hylaw a chaniatáu digon o orffwys rhyngddyn nhw. Dros amser gallwch chi gynyddu’n raddol faint rydych chi’n ei wneud mewn diwrnod ac adeiladu eich stamina.
Mae’n naturiol i chi deimlo’n fwy blinedig ac angen mwy o orffwys nag arfer ar ambell ddiwrnod. Mae’n debygol y byddwch chi’n profi rhai rhwystrau ar hyd y ffordd yn ystod eich adferiad ond mae’n bwysig canfod y cydbwysedd rhwng gwthio’ch hun a gorffwys pan fydd angen. Os nad ydych chi’n ei chymryd hi’n hamddenol, efallai y bydd perygl i chi ddisgyn i’r patrwm o wneud gormod a wedyn gallu gwneud dim. Mae hyn yn digwydd pan fyddwch chi’n cael diwrnod da ac yn ceisio gwneud cymaint â phosibl, sy’n eich gadael yn fwy blinedig. Yna bydd angen i chi orffwys mwy a gwneud llai yn ystod y dyddiau canlynol, sy’n gallu arwain at ddirywiad graddol yn eich stamina.
Dyna pam, hyd yn oed ar ddiwrnod da, ei bod hi’n dal yn bwysig i chi ei chymryd hi’n hamddenol er mwyn peidio â blino gormod yn ystod y dyddiau nesaf. Drwy fod yn hamddenol ar ddiwrnodau da a chaniatáu i chi’ch hun yr amser gorffwys sydd ei angen arnoch ar ddiwrnodau gwael, gallwch chi barhau i wneud gwelliannau i’ch blinder dros amser.
Wrth fod yn hamddenol, mae’n bwysig blaenoriaethu’r gweithgareddau sy’n bwysig i chi. Ceisiwch beidio â blino eich hun gyda gweithgareddau sy’n llai pwysig neu’n llai pleserus.
Sut i wneud mwy yn raddol?
Gall fod yn fuddiol i chi fonitro faint rydych chi’n ei wneud a phryd fyddwch chi’n teimlo’n fwy neu’n llai blinedig. Er enghraifft, efallai y byddai’n ddefnyddiol cadw dyddiadur ymarfer corff. Yna gallwch chi osod nodau bach, hylaw eich hun ac adeiladu’n raddol ar hynny.
Dyma enghraifft o ddyddiadur gweithgareddau.
Mae’r dolenni canlynol yn rhoi cyngor pellach ar reoli blinder.
Mae cael trafferth cyfathrebu yn beth cyffredin pan fyddwch chi mewn gofal critigol. Gall hyn fod oherwydd y tiwbiau anadlu sy’n eich rhwystro rhag defnyddio eich llais, trawma/difrod o ganlyniad i diwbiau anadlu sy’n effeithio ar eich tannau lleisiol neu anaf i’ch ymennydd sy’n effeithio ar leferydd ac iaith.
Mae newidiadau i’r llais yn beth cyffredin ar ôl cael eich mewndiwbio. Mae hyn oherwydd bod y tiwb anadlu yn mynd drwy eich laryncs ac yn gallu achosi trawma a llid i’ch tannau lleisiol a strwythurau eraill o’u cwmpas. Mae hyn yn aml yn arwain at newidiadau dros dro i’ch llais. Bydd y Therapydd Lleferydd ac Iaith yn asesu eich llais, yn eich cynghori ynghylch unrhyw strategaethau/ymarferion y gallwch chi eu gwneud i helpu ac os oes angen trefnu asesiad Clust, Trwyn a Gwddf (ENT) hefyd.
Mae’r ddolen ganlynol yn rhoi rhagor o wybodaeth am hyn.
Mae’n beth arferol yn ystod ac ar ôl bod mewn gofal critigol i gael trafferth bwyta ac yfed am sawl rheswm, e.e. dim chwant bwyd, teimlo’n llawn yn gyflym, teimlo’n sâl, teimlo’n flinedig neu’n wan, eich arogl a’ch blas yn newid. Gall gymryd peth amser i’ch archwaeth ddychwelyd i’r arfer.
Os ydych chi’n cael trafferth gafael mewn pethau wrth fwyta ac yfed oherwydd gwendid neu anaf ar ôl gofal critigol, mae llawer o offer sy’n gallu eich helpu. Os oes therapydd galwedigaethol yn rhan o’ch gofal, bydd yn gallu rhoi cyngor ar sut i fwyta ac yfed neu mae llawer o awgrymiadau ar y rhyngrwyd am wahanol bethau a allai eich cynorthwyo.
Nid yw colli pwysau neu golli cryfder yn y cyhyrau yn anarferol yn ystod arhosiad gofal critigol. Bydd bwyta ac yfed yn dda yn eich helpu i wella.
Os ydych chi’n profi rhai o’r problemau uchod, mae cymorth ac arweiniad ar y dolenni canlynol:
*Sylwch fod y ddolen hon yn cynnwys peth gwybodaeth sy’n ymwneud yn benodol â’r rhai sy’n byw yng Nghaerdydd a’r Fro. Cysylltwch â’ch bwrdd iechyd os oes angen gwybodaeth benodol arnoch am yr hyn sydd ar gael yn eich ardal leol. .
Bydd rhai pobl yn cael trafferth llyncu (dysffagia). Gall y weithred o lyncu gael ei effeithio hefyd o ganlyniad i drawma gan diwbiau anadlu, gwendid cyffredinol a niwed i’r ymennydd a’r nerfau. Mae llyncu yn defnyddio’r un cyhyrau â lleisio a siarad. Mae hyn yn golygu, yr un fath â’ch llais, ei fod yn arferol i’ch llwnc gael ei effeithio gan diwb anadlu. Gall hyn ei gwneud hi’n anodd i bobl lyncu bwyd a diod fel y byddant fel arfer, ac ar adegau mae pobl yn ei chael hi’n anodd llyncu poer hefyd.
Rhan o waith Therapydd Lleferydd ac Iaith yw asesu diogelwch llyncu ac adferiad a gwneud yn siŵr bod pobl yn cael eu bwyd a’u hylifau mewn ffordd sy’n ddiogel iddyn nhw. Os oes unrhyw beth yn effeithio ar y weithred o lyncu, gall hynny achosi i fwyd a diod fynd i lawr y ffordd ‘anghywir’ ac achosi haint ar y frest. Efallai bydd rhaid i chi ddechrau bwyta ac yfed yn araf a bydd y mathau o fwyd y gallwch chi eu cael yn gyfyngedig. Bydd y Therapydd Lleferydd ac Iaith yn gweithio gyda’r Deietegydd i wneud yn siŵr eich bod chi’n cael digon o fwyd a hylifau’n ddiogel.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am anawsterau llyncu (dysffagia) ar ôl mewndiwbio.
Ar y llaw arall, bydd rhai pobl yn ei chael hi’n anodd magu pwysau ar ôl derbyn gofal critigol. Os ydych chi’n ceisio colli pwysau, mae’n ddoeth aros nes eich bod chi’n teimlo’n dda ac wedi gwella o’ch arhosiad diweddar yn yr ysbyty. Mae’n well colli pwysau yn araf a chyson. Bydd yr adnoddau isod yn rhoi rhagor o wybodaeth a chefnogaeth i chi.
Bydd cyflawni tasgau dyddiol fel cael cawod, gwneud diod neu baratoi pryd o fwyd nid yn unig yn eich helpu i ddod yn fwy annibynnol a gwella eich lles ond hefyd bydd yn gwella cryfder cyhyrau eich breichiau a’ch coesau.
Bydd cynyddu eich lefelau gweithgaredd yn fuddiol ochr yn ochr ag unrhyw raglen ymarfer corff, ond mae hefyd yn bwysig cael balans a gofyn am help pan fydd ei angen arnoch chi a pheidio â gwthio’ch hun yn rhy galed.
Efallai y bydd angen i chi addasu’r ffordd rydych chi’n gwneud rhai o’r tasgau hyn neu ddefnyddio offer i helpu. Gall Therapydd Galwedigaethol helpu gyda hyn.
Ar ôl gadael yr ysbyty efallai y byddwch chi’n cael problemau gyda sut yr ydych chi’n meddwl a chofio pethau.
Gall sawl peth gyfrannu at broblemau’r meddwl a’r cof ar ôl cyfnod o salwch corfforol, gan gynnwys:
Bydd yr anawsterau hyn yn aml yn gwella gydag amser. Fodd bynnag, os byddan nhw’n parhau am fwy na thri mis ar ôl i chi ddod o’r ysbyty, siaradwch â’ch meddyg teulu am gyngor pellach.
Am ragor o wybodaeth, gweler y ddolen isod:
Mae’r wybodaeth uchod yn rhoi cyngor pellach ar gof a gwybyddiaeth. Mae cyfeiriad at COVID-19 ond mae’r wybodaeth a’r cyngor yn dal i fod yn berthnasol ar ôl arhosiad gofal critigol.
Er na fydd rhai cleifion yn gallu cofio eu harhosiad yn yr ysbyty efallai, gall eraill gofio profiadau brawychus a gofidus fel deliriwm gofal critigol.
Mae deliriwm gofal critigol yn gyflwr dros dro o ddryswch acíwt sy’n cael ei achosi gan feddyginiaethau, bod yn amddifad o gwsg, poen, haint, diffyg ocsigen a rhesymau meddygol eraill. Mae cleifion sy’n profi deliriwm gofal critigol yn:
Er mai syndrom dros dro yw hwn fel arfer, gall gymryd peth amser i gael ei ddatrys yn llwyr. Mae’r gofid a’r ofn yn gallu dychryn rhai cleifion a gwneud iddyn nhw deimlo’n ofnus, yn flin, yn unig a chodi cywilydd arnyn nhw. Gall rhai brofi ôl-fflachiadau, breuddwydion byw neu hunllefau sy’n gallu effeithio ar eu bywydau o ddydd i ddydd. Mae’n gallu cael effaith ddofn ar ffrindiau a pherthnasau hefyd.
Er na fydd pawb eisiau cofio beth ddigwyddodd efallai, a ddim eisiau siarad am y peth, efallai y bydd rhai yn dymuno:
Does dim ffordd gywir nac anghywir o ymateb. Bydd yr anawsterau hyn yn cael eu datrys gydag amser i lawer o bobl. Ond, os bydd unrhyw un o’ch symptomau’n parhau, gofynnwch am gymorth pellach gan eich meddyg teulu.
Am fwy o wybodaeth, gweler y ddolen isod:
Mae bod yn ddifrifol wael yn gallu bod yn brofiad trawmatig ac efallai y bydd yn cymryd peth amser i ddod i delerau â hyn. Efallai y byddwch chi’n teimlo amrywiaeth o emosiynau gwahanol ar ôl i chi fynd adref. Mae hyn yn beth arferol sy’n gallu digwydd oherwydd y salwch, eich cyfnod yn yr ysbyty, neu’r driniaeth a gafodd ei rhoi i’ch helpu i wella.
Yn ystod y mis neu ddau cyntaf ar ôl mynd adref mae’n arferol:
Bydd y rhan fwyaf o symptomau seicolegol yn diflannu wrth i amser fynd yn ei flaen. Gall y pethau canlynol helpu:
Ar ôl mis neu ddau o fod adref, os bydd eich symptomau’n parhau i effeithio ar eich bywyd bob dydd, gofynnwch i’ch meddyg teulu am gyngor.
Am ragor o wybodaeth, gweler y ddolen isod:
Mae cael problemau cysgu yn arferol ar ôl cyfnod o salwch critigol. Mae cleifion yn aml yn dweud eu bod nhw’n cael anhawster mynd i gysgu a chysgu drwy’r nos. Mae rhai yn dweud eu bod nhw’n cael breuddwydion neu hunllefau dwys sy’n teimlo’n real iawn hefyd.
Er y gall gymryd peth amser i fynd yn ôl i drefn cysgu arferol, gall yr awgrymiadau canlynol fod o gymorth:
Os ydych chi’n cael trafferth cysgu, gall eich meddyg teulu roi cyngor pellach i chi, ond dylai pethau ddychwelyd fel ag yr oedden nhw wrth i chi ddod yn gryfach ac yn fwy actif.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y ddolen isod.
Mae rhai pobl yn profi newidiadau, e.e. colli gwallt neu wallt yn teneuo / newid yn ansawdd y gwallt yn yr wythnosau a’r misoedd ar ôl arhosiad gofal critigol. Gall hyn ddigwydd oherwydd ymateb i’r straen y mae’r corff yn ei brofi yn ystod cyfnod o salwch. Mae hyn yn eithaf cyffredin a dylai ddechrau gwella gydag amser. Mae newidiadau o’r fath sy’n cael eu hachosi gan golli gwallt neu newid yn nelwedd eich corff yn gallu effeithio ar hyder.
Gallai fod yn ddefnyddiol siarad â’ch fferyllydd, eich meddyg teulu, barbwr / siop trin gwallt am gyngor a allai eich cefnogi drwy’r newid hwn.
Gall ewinedd a chroen rhai cleifion newid hefyd. Dylai hyn wella gydag amser. Am ragor o wybodaeth ynghylch newidiadau arferol i wallt, croen ac ewinedd yn dilyn salwch critigol a sut y gall eich deiet helpu, gweler y ddolen ganlynol:
Am ragor o wybodaeth am alopesia, gweler y ddolen ganlynol: Sefydliad Cenedlaethol Alopesia Areata.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.