Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Cael eich rhyddhau i’ch cartref

Pan fyddwch yn ddigon iach i adael yr ysbyty, bydd y tîm yn gweithio gyda chi i nodi pa gefnogaeth sydd ei hangen arnoch pan fyddwch yn mynd adref. Gall hyn gynnwys darparu offer, gofal, adsefydlu parhaus neu ymchwiliadau meddygol pellach.

Bydd y tîm yn gwneud yr atgyfeiriadau gofynnol ar eich rhan a bydd crynodeb o’r rhyddhau yn cael ei anfon yn electronig at eich meddyg teulu.

Dilyniant ar ôl gofal critigol

Gan ddibynnu ble rydych chi’n byw, efallai y byddwch chi hefyd yn cael cynnig apwyntiad mewn clinig ôl-ofal critigol lle gallwch chi drafod eich pryderon. 

I gael gwybodaeth benodol ynglŷn â’r hyn sy’n dilyn arhosiad gofal critigol, siaradwch â rhywun o’ch bwrdd iechyd am fwy o wybodaeth. Byddan nhw hefyd yn gallu rhoi mwy o gyngor wedi’i deilwra i chi os oes ei angen ynglŷn â’ch adferiad a’ch cyflwr. Neu ewch i wefan eich byrddau iechyd lleol am ragor o wybodaeth. 

Unwaith y byddwch chi gartref, os oes gennych chi bryderon heb eu trafod â neb, gallwch chi ofyn am gael eich cyfeirio ar unrhyw adeg. Gall eich meddyg teulu neu dîm lleol eich cyfeirio at dîm cleifion allanol neu gymunedol neu wasanaethau arbenigol er enghraifft.

Gall y rhain gynnwys:

  • Os ydych chi’n profi diffyg anadl, diffyg anadl sy’n gwaethygu neu lai o oddefgarwch ymarfer corff.
  • Os ydych chi wedi cwympo fwy nag unwaith ar ôl cael eich rhyddhau.
  • Os ydych chi’n cael trafferth gyda’ch lefel gyffredinol o gryfder a symudedd neu os nad ydych chi’n gallu cyflawni tasgau yr oeddech chi’n gallu eu gwneud cyn cael eich rhyddhau o’r ysbyty
Icon depicting someone receiving fluid through a nasal tube
Icon depicting someone receiving fluid through a nasal tube

Gall y rhain gynnwys:

  • Archwaeth wael a bwyta llai o fwyd nag arfer
  • Methu magu pwysau ’nôl i’ch pwysau arferol
  • Colli pwysau parhaus
  • Magu pwysau nad oes eu hangen
  • Cyngor deietegol arbenigol e.e. diabetes, gastroenterolegol, arennol

Gall y rhain gynnwys:

  • Llais ddim yn dychwelyd i gyfaint neu ansawdd blaenorol
  • Anhawster defnyddio eich llais ar gyfer gwaith a/neu swyddogaeth o ddydd i ddydd
  • Anghysur wrth ddefnyddio eich llais
  • Trafferthion llyncu e.e. peswch wrth fwyta/yfed, synhwyro bod bwyd neu ddiod ar ôl yn eich gwddf.

Gall rhai cleifion, pan fyddan nhw’n mynd adref, ganfod eu bod nhw’n cael trafferth corfforol neu’n wybyddol gyda thasgau bob dydd, e.e.:

  • Golchi a gwisgo
  • Mynd i mewn ac allan o’r gwely
  • Paratoi pryd o fwyd
  • Dychwelyd i weithgareddau hamdden / gwaith

Gall therapydd galwedigaethol awgrymu strategaethau neu offer a allai eich helpu i ddod yn fwy annibynnol.

  • Anawsterau emosiynol parhaus sy’n effeithio ar eich gallu i wneud pethau, e.e. teimlo’n isel eich ysbryd, gorbryder, ôl-fflachiadau neu freuddwydion anodd
  • Anawsterau meddwl a chofio
Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content