Pan na fyddwch angen y lefel uchel o ofal meddygol sy’n cael ei roi mewn gofal critigol mwyach, byddwch yn symud i ward. Gall hyn fod yn
Ambell dro mae pobl yn cael eu rhyddhau adref yn syth o ofal critigol.
Ble bynnag yr ewch chi ar ôl eich arhosiad, bydd y staff sydd wedi bod yn gofalu amdanoch chi ar ofal critigol yn sicrhau bod yr holl wybodaeth bwysig amdanoch chi a’ch arhosiad gofal critigol yn cael ei throsglwyddo. Rydym yn gwneud hyn i geisio sicrhau bod eich trosglwyddiad mor llyfn â phosibl a’ch bod yn parhau gyda’ch adferiad cyn gynted ag y byddwch chi’n symud allan o ofal critigol.
Er ein bod yn ceisio delio ag unrhyw broblemau’n ymwneud â’ch arhosiad mewn gofal critigol tra eich bod yn dal ar yr uned gofal critigol, bydd angen cymorth parhaus ar lawer o bobl. Efallai y bydd angen cymorth arnoch chi gan Ffisiotherapi, Deieteg, Therapi Lleferydd ac Iaith, Therapi Galwedigaethol neu Seicoleg wrth gael eich rhyddhau i’r ward. Felly, rydym yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr sy’n gweithio ar draws wardiau’r ysbyty i sicrhau bod y gofal dilynol priodol yn cael ei roi.
Gallwch chi ofyn i’ch meddyg neu nyrs eich cyfeirio at un o’r therapyddion uchod os ydych chi’n credu y byddai’n ddefnyddiol.
Dydy hi ddim yn anarferol i bobl deimlo’n nerfus neu boeni am adael gofal critigol. Os ydych chi’n teimlo’n bryderus am hyn, mae’n bwysig eich bod chi’n dweud wrth rywun. Gall staff gofal critigol ateb eich cwestiynau, esbonio’r broses a’ch helpu i ddeall beth i’w ddisgwyl wrth symud.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.