Clinigau Adferiad Gofal Critigol
Eich adferiad ar ôl gofal critigol
Mae cyrraedd adref yn gam enfawr ar eich llwybr i wella. Er ei bod yn rhyddhad enfawr i fod yn ôl gartref fel arfer, efallai y bydd rhai yn teimlo bod yr wythnosau cyntaf yn daith wib o emosiynau wrth geisio addasu i fywyd bob dydd.
Er mwyn eich helpu yn ystod y cyfnod hwn, efallai y bydd apwyntiad yn cael ei gynnig i chi mewn Clinig Adferiad Gofal Critigol (sydd hefyd yn cael ei alw’n Glinig Ôl-ofal Critigol).
Beth yw Clinigau Adferiad Gofal Critigol?
Bydd yr apwyntiad hwn tua 8-12 wythnos ar ôl i chi fynd adref o’r ysbyty a bydd yn cael ei ddarparu gan arbenigwyr sydd â diddordeb mewn adferiad ar ôl salwch critigol. Bydd ganddyn nhw wybodaeth hefyd am wasanaethau a allai fod ar gael i chi yn y gymuned.
Mae clinigau adferiad Gofal Critigol ar gael ar draws y rhan fwyaf o fyrddau iechyd yng Nghymru a gall fod yn apwyntiad wyneb yn wyneb neu apwyntiadau sy’n cael ei gynnal yn rhithiol ar y we e.e. Attend Anywhere.
Yn ystod y clinig bydd y staff yn holi am eich adferiad, a byddwch chi’n gallu gofyn cwestiynau i’r staff Gofal Critigol.
Pwy fydd yno?
Yn dibynnu ar eich lleoliad, efallai y byddwch chi’n gweld gweithwyr proffesiynol gwahanol ond bydd pob un yn gofyn cwestiynau tebyg ac yn rhoi cyngor yn ôl yr angen. Efallai y byddwch chi’n gweld un o’r canlynol:
- Ymgynghorydd Gofal Critigol
- Nyrs arbenigol Gofal Critigol
- Therapydd Galwedigaethol
- Ffisiotherapydd
- Seicolegydd Clinigol
- Deietegydd
Beth i’w ddisgwyl?
Cyn neu yn ystod eich apwyntiad clinig efallai y bydd staff yn gofyn i chi lenwi holiaduron ynghylch eich adferiad. Mae’r rhain er mwyn i ni allu deall eich adferiad corfforol, cymdeithasol a seicolegol a sicrhau bod y gweithwyr proffesiynol cywir ar gael yn y clinig.
Yn y rhan fwyaf o’r byrddau iechyd, bydd yr holiaduron ar ffurf
- Ffurflen Fer 36 (SF-36),
- Holiadur Sgrinio Trawma (TSQ)
- Sgrin Cyflwyno Ôl-ICU Cymunedol (PICUPS Cymunedol)
- GAD-7
- PHQ-9.
Yn ystod y clinig bydd y tîm yn archwilio’r canlynol:
- Adrodd yn ôl ar eich profiad yn yr uned Gofal Critigol:
Bydd y meddyg neu’r nyrs yn egluro beth ddigwyddodd i chi yn ystod eich cyfnod mewn gofal critigol mewn iaith sy’n hawdd i chi ei deall. Byddan nhw’n ateb eich cwestiynau chi am eich cyfnod gofal critigol. - Asesiad o weithgaredd ffisegol:
Asesiad trylwyr i ddarganfod pa heriau y gallech chi fod yn eu hwynebu o hyd ac os ydych chi’n cael problemau parhaus gyda phoen, colli cryfder neu ddefnyddio’r corff. - Adrodd yn ôl ar atgofion gofal critigol (deliriwm):
Yn aml, gall atgofion o ofal critigol ymddangos yn real iawn. Gall yr atgofion hyn fod yn frawychus, yn ofidus neu’n bryderus, ac efallai na fydd cleifion eisiau siarad am hyn yn agored rhag ofn i eraill beidio â deall. Bydd y tîm yn esbonio pa mor gyffredin yw hi i gleifion sy’n ddifrifol wael ddioddef o ddeliriwm. Mae ôl-fflachiadau o freuddwydion gwael neu atgofion am ofal critigol yn gallu digwydd ac mae siarad â’r seicolegydd clinigol yn gallu bod o gymorth mawr. - Cymorth emosiynol:
Mae adferiad o salwch critigol yn gallu bod yn broses flinedig, ynysig, heriol ac yn aml yn broses unig. Mae cleifion yn aml yn gweld ei bod hi’n anodd i anwyliaid ddeall yn union beth maen nhw wedi mynd drwyddo, dim ots pa mor galed maen nhw’n ceisio gwneud hynny. Mae lles emosiynol yn cael ei drafod yn ystod yr apwyntiad i ategu’r holiadur electronig, sy’n ddefnyddiol iawn i ddeall a yw iselder, gorbryder neu anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD) yn effeithio ar eich adferiad a helpu gyda chyfeiriadau at wasanaethau therapi siarad.
Beth sy’n digwydd ar ôl y clinig?
Yn dibynnu ar yr hyn rydych chi wedi’i drafod a’ch anghenion unigol, bydd y tîm, os oes angen, naill ai’n rhoi gwybodaeth i chi neu yn eich cyfeirio at wasanaethau eraill i helpu i gefnogi eich adferiad.
Er enghraifft, os ydych chi’n cael problemau parhaus gyda’ch llais, yna efallai y byddwch chi’n cael eich cyfeirio at arbenigwyr Clust, Trwyn a Gwddf (ENT). Lle bynnag y bo’n bosibl, bydd y tîm yn trafod atgyfeiriadau er y bydd darparu amserlenni ar gyfer hyn yn heriol iawn ac efallai na fydd yn bosibl.
Yn y mwyafrif llethol o achosion, dim ond un ymweliad â chlinig adferiad Gofal Critigol fydd ei angen. Yn achlysurol iawn, mae’n bosib y bydd ail apwyntiad y cael ei gynnig i chi. Bydd hyn yn digwydd dim ond os oes problemau heb gael eu datrys neu os yw unigolyn proffesiynol, e.e. ffisiotherapydd, yn teimlo y byddech chi’n elwa o un apwyntiad arall.
Bydd eich meddyg teulu (neu chi eich hun mewn rhai achosion) yn derbyn llythyr gan y tîm yn amlinellu’r trafodaethau ac unrhyw atgyfeiriadau. Ar gyfer pob problem neu bryder yn y dyfodol, dylech chi weld eich Meddyg Teulu a fydd yn gallu cael mynediad at wasanaethau yn eich ardal.
