Offer y gallech chi eu gweld mewn gofal critigol
Dyma ddisgrifiad byr o wahanol offer y gallech chi eu gweld yn yr uned gofal critigol. Os oes offer sydd ddim yn cael eu hamlinellu isod neu os ydych chi’n ansicr am yr hyn y mae offer yn ei wneud, siaradwch â’r nyrs wrth erchwyn eich gwely a fydd yn gallu esbonio.

Peiriant anadlu
Mae’n cefnogi anadlu drwy roi ocsigen i’r ysgyfaint a thynnu carbon deuocsid o’r corff pan fo claf yn rhy sâl neu’n rhy gysglyd i wneud hynny ei hun. Bydd gan gleifion diwb fel bod y peiriant anadlu yn gallu rhoi cymorth anadlu. Gellir gosod hwn drwy’r geg ac i mewn i’r bibell wynt (tiwb endotraceaidd) neu ei osod yn uniongyrchol yn y bibell wynt (tiwb traceostomi).
Wrth i gleifion wella, efallai na fyddant angen y peiriant anadlu ond hwyrach y bydd angen cefnogaeth anadlu o hyd. Bydd y tîm yn egluro’r gwahanol fathau o gymorth anadlu sydd ar gael i gleifion wrth i’r rhain newid yn ystod arhosiad y claf.

Tiwb endotraceaidd
Tiwb sy’n rhoi cymorth anadlu o’r peiriant anadlu i’r claf. Mae’n cael ei osod drwy’r geg ac i mewn i’r bibell wynt.

Tiwb traceostomi
Tiwb sy’n rhoi cymorth anadlu o’r peiriant anadlu i’r claf. Mae’n cael ei osod yn uniongyrchol yn y bibell wynt.

Uned sugno
Mae’n helpu i glirio secretiadau o’r llwybr anadlu pan na fydd cleifion yn gallu gwneud hynny eu hunain.

Monitor wrth erchwyn y gwely
Mae’n monitro gwybodaeth hanfodol yn gyson, e.e. cyfradd curiad y galon, rhythm y galon, pwysedd gwaed a lefelau ocsigen.

Siart arsylwi
Yma mae gwybodaeth hanfodol am ein cleifion, fel pwysedd gwaed, cyfradd curiad y galon, allbwn wrin a thrwythiadau cyffuriau yn cael ei dogfennu. Gall hyn fod ar bapur neu ar gyfrifiadur.

Pympiau
Maen nhw’n rhoi hylifau, meddyginiaethau a bwyd i’n cleifion.

Larymau
Mae larymau yn rhoi rhybudd i nyrsys os oes newidiadau yng nghyflwr ein cleifion ac yn caniatáu i ni wneud addasiadau rheolaidd i ofal cleifion. Nid yw hynny o reidrwydd yn golygu bod rhywbeth o’i le. Gall y nyrs wrth erchwyn y gwely esbonio’r gwahanol larymau a’r offer i unrhyw un sy’n ymweld â’r uned.

Cathetr gwythiennol canolog
Mae’n cael ei osod yn un o’r gwythiennau mawr canolog er mwyn gallu rhoi gwahanol feddyginiaethau ar yr un pryd. Gellir ei ddefnyddio hefyd i roi maeth os nad yw perfedd claf yn gweithio’n iawn.

Cathetr rhydwelïol
Tiwb tenau sy’n cael ei osod mewn rhydweli. Gellir monitro pwysedd gwaed yn gyson ac mae modd cymryd samplau gwaed yn rheolaidd.

Tiwbiau bwydo
Y math mwyaf cyffredin yw tiwb trwyn i’r stumog sy’n cael ei osod drwy’r ffroen, i lawr y corn gwddf ac i mewn i’r stumog. Math arall o diwb bwydo yw tiwb trwyn i’r jejwnwm sy’n cael ei osod drwy’r ffroen, i lawr y corn gwddf ac i mewn i’r coluddyn bach. Os oes angen bwyd artiffisial tymor hir ar gleifion, efallai bydd tiwb yn cael ei fewnosod i’r abdomen ac yn uniongyrchol i’r stumog (tiwb gastrostomi) neu’r coluddyn bach (tiwb jejwnostomi).

Matres aer
Mae gwahanol bwysedd aer o fewn celloedd y fatres yn gymorth i atal briwiau gwasgedd rhag datblygu.

Cywasgwr croth y goes
Mae aer yn cael ei bwmpio’n ysbeidiol ar wahanol bwysau i atal ceuladau gwaed rhag datblygu.

Cathetr wrinol
Tiwb sy’n cael ei osod yn y bledren er mwyn monitro faint o wrin mae’r arennau’n ei gynhyrchu. Mae’n gymorth i gadw ein cleifion yn gyfforddus.

Dreiniau brest
Er mwyn i ni allu draenio aer neu hylif gormodol rhwng yr ysgyfaint a wal y frest.

Monitor pwysedd mewngraeanol
Gwifren fach sydd wedi’i gosod yn ofalus trwy’r benglog sy’n canfod cynnydd ym mhwysedd yr ymennydd.

Draen fentriglaidd allanol
Mae’n draenio hylif gormodol sy’n gallu cronni o amgylch yr ymennydd.

Peiriant hidlo hemo (peiriant arennau)
Mae’n tynnu cynhyrchion gwastraff o’r corff pan na fydd arennau’n gallu gwneud hyn eu hunain.
