Anawsterau llyncu ar ôl mewndiwbio

Dysffagia yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio anawsterau wrth gnoi a llyncu bwyd, diod a / neu boer. Mae dysffagia’n digwydd pan fydd y cyhyrau rydyn ni’n eu defnyddio wrth gnoi a llyncu (gwefusau, gên, tafod, taflod a chyhyrau gwddf) yn mynd yn wan ac yn anodd eu symud. Dysffagia yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio anawsterau wrth gnoi a llyncu bwyd, diod a / neu boer. Mae dysffagia’n digwydd pan fydd y cyhyrau rydyn ni’n eu defnyddio wrth gnoi a llyncu (gwefusau, gên, tafod, taflod a chyhyrau gwddf) yn mynd yn wan ac yn anodd eu symud.

Beth yw mewndiwbio?

Mewndiwbio yw gosod tiwb endotraceal plastig hyblyg (ETT) yn eich ceg a’ch gwddf. Fel arfer, mae’n cael ei osod pan fyddwch chi’n cysgu neu’n anymwybodol.

A pvc tube with wires and a suction pump.
Diagram of a patient being intubated with an endotracheal tube

Beth yw effaith mewndiwbio?

Mae tystiolaeth sy’n dangos bod mewndiwbio yn gallu achosi;

  • cochni a chwyddo yn eich gwddf
  • llai o deimlad yn eich gwddf
  • gwendid yng nghyhyrau’r tafod, y gwddf, a’r laryncs
  • niwed i’ch tannau lleisiol; yr enw ar hyn yw dysffonia, felly efallai y bydd eich llais yn swnio’n wahanol
  • niwed i nerfau eich laryncs a’ch cyhyrau llyncu
  • newid i gydlyniad eich cylch llyncu anadlol wrth fwyta ac yfed

Gall un neu bob un o’r uchod bara am ychydig ddyddiau, ychydig fisoedd neu’n fwy parhaol. Mae llawer o ffactorau sy’n cyfrannu at hyn. Bydd eich tîm meddygol a’ch therapydd lleferydd yn gallu rhoi rhagor o gyngor i chi.

Mae’r uchod i gyd yn gallu cyfrannu at anawsterau bwyta, yfed a llyncu; mae’n gallu cynnwys llyncu eich poer eich hun hefyd.

Beth yw mewnsugno?

Mewnsugno ywr enw meddygol am boer, bwyd a diod syn mynd i lawr y ffordd anghywir. Os bydd mewnsugnon digwydd yn rheolaidd, maen gallu achosi niwmonia mewnsugnomae hwn yn haint cas iawn ar y frest a gall wneud pobl yn sâl iawn. 

Arwyddion a symptomau mewnsugno i fod yn ymwybodol ohonynt…

  • Pesychu a theimlad o dagu pan ydych chi’n llyncu bwyd neu ddiod 
  • Teimlo’n brin o anadl yn ystod neu ar ôl prydau bwyd neu ddiodydd 
  • Bwyd neu ddiod ‘yn mynd lawr y ffordd anghywir’ 
  • Teimlo’n fwy myglyd neu’n sâl 
  • Teimlo bod lwmp yn sownd yn eich gwddf 
  • Bwyta’n arafach nag arfer 
  • Llais gwlyb neu fyrlymus ar ôl bwyta neu yfed 
  • Bwyd ar ôl yn y geg ar ôl pryd o fwyd
Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content