Dyma atebion i rai o’r cwestiynau ynghylch newidiadau llais ar ôl mewndiwbio yn yr adran gofal dwys. Os oes gennych chi ragor o gwestiynau neu bryderon, siaradwch â’r meddyg neu’r nyrs sy’n gofalu amdanoch chi.
Mae tiwb anadlu plastig bychan (sy’n cael ei alw’n diwb endotracheal) yn cael ei fewnosod yn eich gwddf i’ch helpu i anadlu yn ystod eich llawdriniaeth neu salwch.
Mae’r tiwb anadlu bychan, plastig yn mynd drwy’r tannau lleisiol yn eich pibell wynt. I rai cleifion mae hyn yn gallu achosi i’r bibell wynt fynd yn llidus ac mae’r mwcws iach, sy’n gorchuddio’r tannau lleisiol i’w cadw’n symudol, yn gallu tewychu.
Efallai y byddwch yn profi un neu ragor o’r problemau canlynol ar ôl y mewndiwbio:
Yn ystod yr oriau cyntaf ar ôl tynnu’r tiwb, yn enwedig os ydych chi wedi cael eich mewndiwbio am amser hir, efallai y byddwch chi’n teimlo’n wan iawn ac yn methu dal beiro a phapur hyd yn oed. Os yw eich llais wedi’i gyfyngu, neu os nad oes gennych lais, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio bwrdd gwyn a beiro i ysgrifennu’r hyn rydych chi eisiau ei ddweud. Gallwch sillafu geiriau ar fwrdd wyddor neu bwyntio at ymadroddion cyffredin ar siart ymadroddion hefyd. Ceisiwch ofyn i’ch nyrs am un o’r rhain.
Er mwyn peidio niweidio’ch llais ac er mwyn helpu adferiad cyflymach, ceisiwch wneud y canlynol:
Ceisiwch osgoi diodydd caffein, bwydydd sbeislyd a allai achosi adlif asid (asid sy’n dod i fyny o’ch stumog ac sy’n annifyr i’ch gwddf).
Dylai’r niwed i’ch tannau lleisiol wella heb driniaeth wrth i chi gryfhau ar ôl eich llawdriniaeth neu salwch, unwaith y bydd y llid yn setlo. Ar adegau prin, nid yw’r llais yn gwella heb driniaeth ac efallai y bydd angen cyfeirio at y tîm clust, trwyn a gwddf (ENT) i ddiystyru niwed strwythurol i’r laryncs. Gall eich tîm meddygol drefnu hyn, neu eich meddyg teulu os byddwch yn ôl gartref.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.