Mae strôc yn effeithio ar y cyflenwad gwaed ac ocsigen hanfodol i’r ymennydd. Gall y diffyg gwaed ac ocsigen sy’n deillio o hynny leihau gallu’r ymennydd i berfformio’n iawn. Yn dibynnu ar ba ran o’r ymennydd sy’n cael ei heffeithio, gellir effeithio ar wahanol swyddogaethau dyddiol megis symud, rheoli’r bledren a’r coluddyn, meddwl a synhwyro. Gall lleferydd, iaith a llyncu hefyd gael eu heffeithio hefyd yn dilyn strôc.
Gall y cyhyrau sydd eu hangen ar gyfer lleferydd gael eu heffeithio oherwydd difrod i’r signalau nerfol penodol.
Gall hyn arwain at leferydd aneglur, wrth i’r gwefusau a’r tafod symud yn llai cyflym neu’n llai cywir ar ôl y strôc.
Mae sawl rhan o’r ymennydd yn ymwneud â’n gallu i ddefnyddio a deall iaith.
Pan fydd y rhannau hyn yn cael eu difrodi gan strôc, gall nam ar yr iaith – a elwir hefyd yn affasia – ddigwydd. Efallai y bydd y person yn ei chael hi’n anodd deall yr hyn sy’n cael ei ddweud, neu’n cael anhawster mynegi’r hyn y mae’n dymuno ei ddweud. Gellir hefyd effeithio ar ddarllen, ysgrifennu a gweithio gyda rhifau.
Gall gwybyddiaeth/meddwl person– megis rhychwant sylw a chof, hefyd gael eu heffeithio gan strôc. Gall hyn hefyd leihau llwyddiant cyfathrebu, oherwydd llai o ganolbwyntio, neu gof o’r hyn sy’n cael ei ddweud.
Mae affasia (a elwir hefyd yn ddysffasia) yn gyflwr sy’n effeithio ar iaith berson ar ôl niwed i’r ymennydd. Gall ddigwydd ar ôl strôc, ond hefyd ar ôl trawma arall i’r pen, neu newidiadau o fewn yr ymennydd megis yng Nghlefyd Parkinson neu ddementia.
Gall person ag Affasia gael problemau wrth ddeall yr iaith o’i gwmpas.
Efallai na fydd yn deall beth mae geiriau penodol yn ei olygu, neu’n cymryd amser hir yn prosesu’r hyn y mae eraill yn ei ddweud. Gall affasia hefyd effeithio ar y gallu i ddarllen, gan fod nam ar y gallu i gysylltu geiriau ysgrifenedig ag ystyr.
Efallai y bydd pobl ag affasia yn ei chael hi’n anodd mynegi eu hunain neu ddod o hyd i’r gair y maen nhw am ei ddefnyddio, er eu bod yn aml yn teimlo eu bod yn gwybod beth yw’r gair.
Mae rhai pobl yn gwneud camgymeriadau lle mae’r gair anghywir yn dod allan. Gall y gair swnio’n debyg i’r gair a fwriedir (fel marc yn lle parc), neu fod yn air cysylltiedig (fel radio yn lle ffôn). Weithiau, dywedir gair cwbl anghysylltiedig (megis cwpwrdd yn lle trowsus), neu dywedir gair disynnwyr. Nid yw’n anghyffredin i berson ailadrodd geiriau, lle defnyddir gair drosodd a throsodd er nad yw’n gywir yn y cyd-destun.
Yn y cyflwr ‘Affasia Rhugl’, gall y person siarad mewn brawddegau, ond heb wneud fawr o synnwyr, gan o bosibl ddefnyddio geiriau disynnwyr neu eiriau nad ydynt yn gysylltiedig. Yn aml, nid yw’r person yn ymwybodol o hyn.
Gall strôc achosi dysarthria, sy’n anhawster ffurfio synau siarad oherwydd gall cyhyrau’r gwefusau neu’r tafod fod yn araf neu’n wan. Gall lleferydd person â dysarthria fod yn aneglur neu gall swnio fel ei fod yn mwmian’. Gall hefyd effeithio ar y llais a gall lleferydd y person fod yn dawel. Mae dysarthria yn debygol o fod yn waeth pan fydd y person wedi blino.
Mae Apracsia Lleferydd (a elwir hefyd yn ddyspracsia) yn digwydd pan nad yw’r signalau o’r ymennydd ar gyfer symudiadau lleferydd wedi’u cydgysylltu’n llawn ac mae hyn yn arwain at wallau o ran sŵn siarad.
Gall geiriau fod oddi ar y targed (e.e. ‘creision’ yn dod allan fel ‘clais’ neu ‘bws’ yn swnio fel ‘bys’).
Efallai mai dim ond mân anawsterau fydd gan rai, ond gall y cyflwr fod yn ddifrifol, gan effeithio ar bopeth y mae’r person yn ceisio’i ddweud. Nid yw’n anghyffredin i’r sawl sydd ag affasia lleferydd geisio cywiro’u lleferydd, ond efallai y bydd yn gwaethygu po fwyaf y maen nhw’n ceisio, sy’n rhwystredig.
Gall strôc effeithio ar allu gwybyddol person. Mae hyn yn golygu bod gallu arferol person i gymryd pethau i mewn ac ymateb i wybodaeth o’u cwmpas yn cael ei effeithio.
Gall effeithio ar sylw neu gof person. Gall hyn olygu nad yw’n gallu canolbwyntio ar yr holl bethau sy’n cael eu dweud wrtho, neu efallai na fydd yn gallu cofio gwybodaeth sy’n cael ei rhoi iddo. Gall hefyd effeithio ar yr hyn y mae’n ceisio’i ddweud, gan nad yw’n efallai’n gallu cadw ar y pwnc, neu gofio’r hyn yr oedd am ei ddweud pan ddechreuodd siarad am y tro cyntaf.
Mae gwerthfawrogiad person o sut y gall pethau weithio gael eu heffeithio, a gall hyn ymwneud â chyfathrebu hefyd. Efallai na fydd y person yn dilyn y ‘normau cymdeithasol’ arferol mewn sgwrs er enghraifft, felly efallai na fydd yn sylweddoli ei fod yn torri ar draws eraill, neu mai tro rhywun arall ydyw i siarad.
Gall strôc effeithio ar y cyhyrau sy’n gysylltiedig â chnoi a llyncu fel y gwefusau, y bochau, y tafod a’r ên, yn ogystal â chyhyrau’r gwddf. Yn aml mae cyhyrau ar un ochr i’r wyneb yn cael eu heffeithio’n fwy na’r llall.
Pan fydd cyhyrau’n cael eu heffeithio, gall bwyd neu ddiod orlifo o’r geg. Gall hefyd fod yn anodd cnoi’n iawn, neu reoli pa fwyd neu hylif sydd yn y geg i’w symud i’r gwddf yn barod i’w lyncu.
Os bydd cyhyrau’r gwddf yn cael eu heffeithio, efallai y bydd y person yn pesychu neu’n dechrau tagu wrth lyncu. Gall hyn fod oherwydd diffyg cydsymudedd, diffyg cryfder yn symudiad y cyhyrau, neu lai o deimlad.
Y tîm therapi Lleferydd a Iaith sydd yn y sefyllfa orau i asesu a rhoi cyngor ac awgrymiadau ar gyfer newid mathau o fwyd neu ddiod.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.