Anawsterau Llyncu (Dysffagia)
Beth yw Dysffagia?
Mae pobl â dysffagia yn ei chael hi’n anodd llyncu. Efallai y bydd rhai pobl yn cael trafferth llyncu diod, bwyd neu boer yn ddiogel ac efallai na fydd rhai yn gallu llyncu o gwbl.
Gall dysffagia fod yn ddifrifol. Efallai y bydd rhywun sy’n methu llyncu yn ddiogel yn cael trafferth bwyta ac yfed digon i gadw’n iach neu gynnal pwysau delfrydol. Mae bwyd neu ddiod yn gallu mynd i mewn i’r llwybr anadlu hefyd a gall fynd i mewn i’r ysgyfaint. Mae hyn yn gallu achosi i facteria niweidiol dyfu, gan arwain at heintiau ar y frest a hyd yn oed niwmonia.
Mae tewhau diodydd neu addasu bwyd yn gallu helpu rhai pobl sydd â dysffagia ond nid yw’r un dull yn gweddu i bawb. Bydd eich Therapydd Iaith a Lleferydd yn asesu eich anghenion unigol cyn argymell newidiadau bwyd a diod.
Hefyd yn yr adran hon
Pam mae eich gallu i lyncu wedi newid ar ôl cael COVID-19
Efallai eich bod yn cael trafferth llyncu ar ôl coronafirws am nifer o resymau, e.e:
- Mwy o beswch neu ddiffyg anadl sy’n gallu effeithio ar amseriad eich llyncu, gwneud i fwyd a diod fynd i lawr y ffordd anghywir (sugniad) i mewn i’ch llwybr anadlu sy’n gallu achosi mwy o beswch hyd yn oed
- Gall mewndiwbio hirdymor (mwy na 3 diwrnod) achosi gwendid yn y tafod/gwddf a niweidio’r tannau llais, gan arwain at lwnc gwan
- Gwendid corfforol a chyhyrol cyffredinol
Mae’r newidiadau hyn yn debygol o wella wrth i chi wella ar ôl coronafeirws ond mewn rhai achosion, efallai y bydd angen help ychwanegol arnoch chi.
Problemau posibl
- Pesychu a theimlo fel petaech yn tagu pan fyddwch yn llyncu bwyd neu ddiod
- Teimlo’n brin o anadl yn ystod neu ar ôl amser bwyd neu yfed diod
- Bwyd neu ddiod yn ‘mynd i lawr y ffordd anghywir’
- Teimlo’n sâl neu deimlo fel petai gennych anhwylder ar y frest
- Teimlo bod lwmp yn sownd yn eich gwddf
- Bwyta’n arafach nag arfer neu gael trafferth wrth ddechrau llyncu
- Llais gwlyb neu gryg ar ôl bwyta neu yfed
- Bwyd ar ôl yn y geg ar ôl pryd o fwyd
Os ydych chi’n profi unrhyw un o’r symptomau hyn a/neu’n teimlo bod eich gallu i lyncu yn gwaethygu, cysylltwch â’ch meddyg teulu.
Pethau cyffredinol i’w cofio
- Ceisiwch osgoi bwyta ac yfed pan fyddwch chi wedi blino
- Eisteddwch yn gyfforddus ac yn syth, ceisiwch beidio â phlygu eich pen yn ôl
- Gwnewch yn siŵr fod eich ceg yn lân ac yn llaith cyn dechrau bwyta
- Gall amser bwyd gymryd mwy o amser – gwnewch yn siŵr eich bod chi’n rhoi digon o amser i chi’ch hun a pheidiwch â rhuthro
- Efallai mai ychydig o fwyd sydd orau, h.y. bwyta ychydig ac yn aml – gall llyncu arafu a bod yn fwy o ymdrech erbyn diwedd pryd o fwyd
- Efallai y bydd angen llyncu o leiaf ddwywaith i bob llond ceg er mwyn sicrhau bod popeth wedi mynd i lawr
- Ceisiwch aros ar eich eistedd, yn gefnsyth, am o leiaf hanner awr ar ôl bwyta/yfed er mwyn i’r bwyd/diod setlo yn eich stumog
- Golchwch eich dannedd neu ddannedd gosod a’ch tafod o leiaf ddwywaith y dydd i gadw’r geg yn iach a lleihau bacteria sy’n gallu cronni yno
Sut y gall pobl eraill helpu
- Sicrhewch fod yr unigolyn sy’n cael trafferth llyncu yn effro ac yn eistedd yn gefnsyth ac yn gyfforddus
- Gwnewch yn siwr nad oes dim byd yn tynnu eu sylw wrth fwyta ac yfed
- Gwnewch yn siŵr bod y geg yn lân ac yn llaith cyn iddynt fwyta ac yfed
- Anogwch yr unigolyn i fwyta ac yfed yn gymedrol, heb orlenwi’r geg
- Helpwch yr unigolyn os nad yw’n gallu bwydo ei hun, gan roi eich holl sylw iddo/iddi
- Defnyddiwch gyllyll a ffyrc neu addasiadau priodol os yw gweithiwr proffesiynol wedi’u hargymell
- Dilynwch argymhellion gweithwyr proffesiynol – e.e. rhoi bwyd a diod o drwch neu wead addas