Mae canser y pen a’r gwddf, yn ogystal â rhai o’r triniaethau y gallech chi eu derbyn, yn gallu effeithio ar gyfathrebu, llyncu a symud yr ên.
Mae therapyddion lleferydd ac iaith yn gallu eich helpu chi i baratoi ar gyfer triniaeth (rhagsefydlu) drwy siarad â chi a rhoi cyngor a/neu ymarferion cyn i chi ddechrau triniaeth.
Rydym hefyd yn gwneud asesiadau, ymchwiliadau a rhoi cymorth yn ystod ac ar ôl triniaeth.
Gallwn ni eich gweld chi pan fyddwch chi’n mynd i’r apwyntiadau Clinig Pen a Gwddf fel claf mewnol neu glaf allanol, a thrwy Ymgynghoriad Teleiechyd/Fideo o’ch cartref.
Mae person sy’n dioddef o’r Genglo yn ei chael hi’n anodd agor ei geg.
Gall Genglo ddatblygu:
Mae llawfeddygaeth a therapi ymbelydredd yn gallu anafu’r meinweoedd sy’n gysylltiedig ag agor y geg. Gall ffibrosis (creithiau) ddatblygu wrth i’r meinweoedd ddechrau gwella ar ôl llawdriniaeth. Mae ffibrosis yn gallu datblygu flynyddoedd ar ôl therapi ymbelydredd hefyd. Mae cyhyrau a ffibrau eraill yn byrhau ac yn tynhau, sy’n ei gwneud yn anoddach agor eich ceg. Pan na allwch chi agor eich ceg yn iawn, mae’n anodd i’r meddyg eich archwilio.
Unwaith y bydd genglo’n datblygu, mae’n anodd iawn ei drin. Atal a thrin yn gynnar yw’r nod.
Mae dulliau rhwystro yn cynnwys ymarferion gên rheolaidd ac weithiau defnyddio dyfais o’r enw TheraBite. Gall eich therapydd lleferydd ac iaith ddweud a yw hyn yn addas i chi.
Llawdriniaeth i dynnu’r blwch llais (laryncs) yw laryngectomi. Mae’n cael ei defnyddio fel triniaeth canser.
Ar ôl y llawdriniaeth byddwch chi’n siarad ac yn anadlu mewn ffordd wahanol.
Bydd llawer o gefnogaeth ar gael gan y tîm gofal iechyd sy’n gofalu amdanoch chi, cyn ac ar ôl y llawdriniaeth.
Tiwb bach sy’n cael ei osod i mewn yn y gwddf yw tiwb traceostomi. Mae’r tiwb yn cael ei roi y tu mewn i’r bibell wynt, gan roi mynediad mwy uniongyrchol i’r ysgyfaint.
Mae’r tiwb yn cael ei osod i’ch helpu i anadlu drwy roi llwybr uniongyrchol i’r ysgyfaint. Mae’n hwyluso sugno er mwyn helpu i gael gwared ar secretiadau (fflem) o’r ysgyfaint ac atal poer rhag mynd i mewn i’r llwybr anadlu.
Bydd angen traceostomi ar ambell glaf fel rhan o’u llawdriniaeth ar gyfer canser y pen a’r gwddf, neu oherwydd anawsterau anadlu sy’n cael eu hachosi gan ganser cyn cael triniaeth.
Cyfeiriad
Ysbyty Athrofaol Cymru
Ffordd Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XW
Ffon: 029 20743012
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.