Os buoch chi yn yr ysbyty gyda COVID-19, efallai eich bod chi wedi cael tiwb traceostomi.
Tiwb bach sy’n cael ei osod i mewn yn y gwddf yw tiwb traceostomi. Mae’r tiwb y tu mewn i’r bibell wynt ac felly yn fynediad mwy uniongyrchol i’r ysgyfaint. Mae’n cael ei osod i’ch helpu i anadlu am ei fod yn llwybr uniongyrchol i’r ysgyfaint. Gellir sugno drwyddo er mwyn cael gwared ar secretiadau (fflem) o’r ysgyfaint, ac atal poer rhag mynd i mewn i’r llwybr anadlu.
Mae traceostomi yn effeithio ar allu cleifion i siarad a llyncu.
Darllenwch ragor o wybodaeth am effeithiau posibl traceostomi, y gefnogaeth y byddwch yn ei chael gan y tîm Therapi Lleferydd ac Iaith, a’r hyn sy’n digwydd pan fydd tiwb traceostomi yn cael ei dynnu.
Darllenwch wybodaeth am Ddyfais Adfer y Llwnc a’r Llais EMST150.