Mae Clefyd Parkinson yn gyflwr niwrolegol cynyddol. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Parkinson’s UK. Mae’r fideo hwn gan Parkinson’s UK yn fan cychwyn defnyddiol i gael gwybod beth yw Clefyd Parkinson.
Dysgwch fwy am arwyddion a symptomau Clefyd Parkinson ar wefan Parkinson’s UK.
Os ydych chi’n teimlo’n bryderus, wedi’ch llethu neu’n cael trafferth ymdopi, cysylltwch â’ch meddyg teulu sy’n gallu eich cyfeirio at weithiwr gofal iechyd proffesiynol addas.
Mae rhai unigolion sydd wedi cael diagnosis o Glefyd Parkinson yn gallu profi newidiadau yn eu lleferydd a llyncu wrth i’r cyflwr ddatblygu dros amser. Gall lleferydd yr unigolyn fynd yn aneglur ac yn anodd ei ddeall, a bydd angen mwy o ymdrech i lyncu hylif a bwyd. Dyma rai o’r anawsterau y gall pobl eu profi wrth fwyta ac yfed:
Mae’r Gwasanaeth Therapi Lleferydd ac Iaith yn gallu helpu os byddwch chi’n sylwi ar y newidiadau hyn. Gallwch chi gael eich cyfeirio gan eich meddyg teulu neu nyrs/meddyg arbenigol neu gysylltu â ni’n uniongyrchol drwy e-bost neu ar 02920 743012.
Mae ymarferion a strategaethau therapi lleferydd ac iaith defnyddiol yn cael eu hargymell o fewn yr ap My Parkinson’s.Os byddwch chi’n chwilio am therapi lleferydd yn y bar chwilio, bydd detholiad o wybodaeth ar gael sy’n archwilio disgrifiadau ac ymarferion i’r llais, awgrymiadau cyfathrebu, llyncu a rheoli poer.
Mae gan dros 80 y cant o bobl â chlefyd Parkinson broblemau llais neu gyfathrebu. Ydych chi’n un ohonyn nhw?
Mae Live Loud! Zoom yn sesiwn grŵp cyfeillgar sy’n cael ei gynnal ar y platfform fideo-gynadledda Zoom. Byddwch angen gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, mynediad i’r rhyngrwyd a gwe-gamera a meicroffon i gymryd rhan yn y sesiynau hyn.
Mae sesiynau Live Loud! yn groesawgar a chefnogol. Maen nhw’n cael eu cynnal gan wirfoddolwyr ac mae gan lawer ohonyn nhw Glefyd Parkinson. Yn y sesiynau gallwch gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n hwyl, yn amrywiol ac sy’n gallu gwella eich hyder i siarad mewn bywyd bob dydd. Mae’r gweithgareddau yn cynnwys ymarferion anadlu, adrodd barddoniaeth a chymryd rhan mewn trafodaethau grŵp.
Nid oes tâl i fynychu’r grŵp. Mae croeso i bartneriaid a gofalwyr eich cefnogi os oes angen rhywfaint o help technegol arnoch chi. Fodd bynnag, rydym yn gofyn iddyn nhw beidio â chymryd rhan gan fod y sesiynau wedi’u bwriadu ar gyfer pobl y mae Clefyd Parkinson yn effeithio ar eu lleisiau.
E-bostiwch Karen Chandler am ragor o wybodaeth am y prosiect Live Loud! neu ffoniwch Karen ar 07966827887.
Os ydych chi’n pryderu bod gennych chi neu rywun sy’n agos atoch chi Glefyd Parkinson, cysylltwch â’ch meddyg teulu.
Ffôn: 02920 313838
Ffôn: 02920 743684
Ffôn: 02920743012
E-bost: cav.sltoutpatients@wales.nhs.uk
Ffôn: 02921835321
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.