Deiet a Chlefyd Parkinson
Os oes gennych Glefyd Parkinson nid oes deiet penodol y dylech ei ddilyn, ond fe ddylai fod yn ddefnyddiol i chi ddilyn deiet mor iach ag y gallwch chi.
Yn gyffredinol, y rheolau ar gyfer dilyn deiet iach yw:
- bwyta deiet amrywiol
- bwyta dognau iach o fwydydd
- bwyta’r cydbwysedd cywir o grwpiau bwyd
- bwyta prydau rheolaidd
- yfed digon o hylifau
- bwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau y dydd
Bydd bwyta deiet cytbwys yn gwella eich iechyd a gall helpu i leddfu’r problemau amrywiol y gallech fod yn eu profi, gan gynnwys rhwymedd, hwyliau isel, dwysedd esgyrn is a newidiadau yn eich pwysau.
Cynnal pwysau iach
Clefyd Parkinson a cholli pwysau’n anfwriadol
Gall pobl â Chlefyd Parkinson weithiau colli pwysau’n anfwriadol, oherwydd diffyg archwaeth, defnyddio mwy o egni, anawsterau llyncu neu anawsterau wrth baratoi prydau bwyd. Gall hyn gynyddu eich risg o ddiffyg maeth a’i risgiau cysylltiedig. Isod ceir rhai awgrymiadau i chi roi cynnig arnyn nhw os ydych yn colli pwysau ac nad ydych yn dymuno gwneud hynny, neu os oes gennych chi ddiffyg archwaeth.
- Bwytewch ychydig ac yn aml: Rhowch gynnig ar fwyta prydau llai gyda byrbrydau a diodydd maethlon rhyngddynt.
- Dylech gynnwys byrbrydau bach rhwng prydau bwyd i helpu i gynyddu eich calorïau’n gyffredinol, e.e. bisgedi, creision, sgons, cacennau te, caws a chraceri, crumpets, rholiau selsig/wyau selsig/samosas bychain.
- Dewiswch fwydydd a diodydd llawn braster/ llawn calorïau, yn lle rhai â braster isel neu fwydydd a diodydd ‘deiet’
- Ceisiwch gael pwdin unwaith neu ddwywaith y dydd, fel iogwrt braster llawn, hufen iâ, cacen, cwstard, pwdin reis.
- Ceisiwch gynnwys diodydd maethlon: defnyddiwch laeth braster llawn neu ddewisiadau llaeth calorïau llawn i wneud ysgytlaeth, smwddi, siocled poeth, coffi llaethog.
- Cyfoethogwch eich bwyd drwy ychwanegu caws ychwanegol, menyn, olew olewydd, mayonnaise neu hufen i’ch prydau
5 cam i ddeiet maethlon
Cyfoethogi ac atgyfnerthu eich bwyd
Pryd i ofyn am gymorth a chyngor pellach:
Rydym yn argymell eich bod yn gofyn am gyngor gan eich meddyg teulu neu dîm Clefyd Parkinson os byddwch yn colli mwy na 5-10% o bwysau eich corff, os ydych dan bwysau (BMI < 20kg/m2), neu os ydych yn dal i golli pwysau er gwaethaf y cyngor uchod. Gallwch ddefnyddio’r offeryn sgrinio maeth BAPEN i wirio eich risg. Bydd yr offeryn sgrinio diffyg maeth hwn yn dweud wrthych os ydych mewn perygl isel, canolig neu uchel, ac yn rhoi cyngor pwysig i’ch helpu i oresgyn rhai o’r problemau hyn. Os yw eich canlyniad yn risg uchel mae’n bwysig i gysylltu â’ch meddyg teulu neu dîm Clefyd Parkinson a gofyn am gael ei atgyfeirio at ddeietegydd am gyngor a chymorth unigol.
Efallai na fydd rhywfaint o’r cyngor uchod yn addas i chi os ydych yn profi anawsterau llyncu (dysffagia). Os ydych wedi cael diagnosis o dysffagia ac yn colli pwysau’n anfwriadol, yna gofynnwch am atgyfeiriad at ddeietegydd am gyngor a chymorth unigol.