Seicoleg a Chlefyd Parkinson
Addasu i ddiagnosis o Glefyd Parkinson
"Fy mhrofiad i o fod yn Seicolegydd gyda phobl sydd â Chlefyd Parkinson yw fy mod i’n aml yn rhyfeddu at y gwytnwch a’r penderfyniad mewnol sydd gan bobl i wella eu sefyllfaoedd."
Dr Ruth Lewis-Morton, Seicolegydd Clinigol gyda’r Gwasanaeth Parkinson ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Gall derbyn diagnosis o Glefyd Parkinson gymryd amser i’w amgyffred ac addasu iddo. Yn aml iawn, mae llawer o deimladau cymhleth yn gysylltiedig â diagnosis newydd, sy’n gwbl ddealladwy.
Mae rhai pobl yn teimlo’n bryderus ac yn ofnus am y dyfodol, rhai yn teimlo’n ddig wrthyn nhw eu hunain am beidio sylwi ar y symptomau yn gynt ac eraill yn ceisio osgoi neu wadu’r symptomau a cheisio dal ati fel arfer. Gall pobl eraill deimlo rhyddhad o gael diagnosis, neu’n obeithiol y gall triniaeth eu helpu i deimlo’n well.
Gall siarad â phobl eraill rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw fod yn gymorth i brosesu emosiynau cymhleth. Weithiau, mae pobl yn dweud nad ydyn nhw am roi baich ar aelodau o’r teulu neu ffrindiau ac y byddai’n well ganddyn nhw siarad â rhywun niwtral.
Mae gan Parkinson’s UK linell gymorth i gefnogi pobl i drafod materion fel y rhain. Ffoniwch 0808 800 0303.
Sut gall Seicolegydd Clinigol helpu?
Mae Dr Ruth Lewis-Morton, Seicolegydd Clinigol gyda’r Gwasanaeth Parkinson ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn esbonio sut y gall Seicolegydd Clinigol gefnogi pobl i ddeall eu hemosiynau ar ôl cael diagnosis o Glefyd Parkinson.
Gall Seicolegwyr Clinigol helpu gyda’r canlynol:
- Addasu i ddiagnosis o glefyd Parkinson a’r newidiadau seicolegol sy’n cyd-fynd â hyn
- Pryder neu orbryder
- Hwyliau isel neu iselder
- Anawsterau cysgu
- Gweld neu glywed pethau nad yw pobl eraill yn eu gweld/clywed (rhithweledigaethau)
- Newidiadau mewn perthnasau neu wrth ryngweithio â phobl eraill
- Cefnogi gyda ffyrdd o reoli poen, anesmwythder neu symptomau corfforol
- Helpu gyda theimladau cymhleth a allai fod yn gysylltiedig â’r diagnosis megis colled, cywilydd, euogrwydd neu hunanfeirniadaeth
- Cefnogaeth gyda ffyrdd o fod yn dosturiol tuag atoch eich hun
- Trafferthion cofio neu ganolbwyntio
- Cefnogi gofalwyr neu aelodau o’r teulu
Dulliau Seicolegol
Mae’r dulliau hyn o gymorth i bobl sydd â Chlefyd Parkinson.
Meddwl Tosturiol (Compassionate Mind)
Mae’r dull seicolegol o’r enw Meddwl Tosturiol, a gafodd ei ddatblygu gan yr Athro Paul Gilbert OBE (Prifysgol Derby), wedi bod yn effeithiol ar gyfer ystod eang o gyflyrau seicolegol a chorfforol. Mae’r dull hwn yn helpu gyda’n dealltwriaeth o’r rhyngweithio rhwng ein profiadau, ein teimladau, ein meddyliau a’n hymddygiad. Mae ganddo ffocws esblygiadol sy’n ein helpu i wneud synnwyr o’r rhyngweithiadau rhwng ein teimladau a’n meddyliau. Mae’n blaenoriaethu ffocws ar ddatblygu trugaredd a lleddfu’r meddwl a’r corff i helpu i leddfu gofid hefyd.
I ddysgu mwy am y dull Meddwl Tosturiol a sut y gallai hyn eich helpu chi, edrychwch ar y fideos isod a gafodd eu datblygu gan Dr Ruth Lewis-Morton o wasanaeth Parkinson’s Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae’r fideos wedi’u hanimeiddio gan Anna Adoniu.
Cafodd y fideos hyn eu datblygu ar gyfer gwefan My Parkinson’s.
Therapi Ymddygiad Gwybyddol
Mae Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT) yn annog ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o batrymau meddyliau, teimladau ac ymddygiadau. Diben Therapi Ymddygiad Gwybyddol yw dysgu mwy am y cysylltiad rhwng ein ffordd o feddwl, sut y gall hyn ddylanwadu ar ein teimladau ac yn ei dro effeithio ar ein hymddygiad. Mae Therapi Ymddygiad Gwybyddol yn ymwneud â deall ein gwybyddiaeth neu’n meddyliau ac mae’n cynnwys amlygiad neu arbrofion ymddygiadol i roi ar waith yr hyn a gafodd ei drafod yn ystod y therapi hefyd. Mae nifer o gyrsiau Therapi Ymddygiad Gwybyddol ar-lein sy’n gallu helpu pobl sy’n profi pryder ysgafn/cymedrol neu iselder.
Ymwybyddiaeth Ofalgar
Mae Ymwybyddiaeth Ofalgar yn annog pobl i fod yn bresennol yn y presennol. Mae’n annog ein ‘system leddfu’ i gael ei hactifadu er mwyn helpu i dawelu’r corff a’r meddwl. Mae’n beth cyffredin i bobl gael meddyliau beirniadol neu deimladau anghyfforddus, fel rhwystredigaeth, wrth ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar. Rydym yn gyfarwydd iawn â meddyliau gweithgar ac yn canolbwyntio’n aml ar y dyfodol neu’r gorffennol. Mae ‘Ymwybyddiaeth Ofalgar’ yw sylwi ar yr hyn sy’n digwydd nawr ac yn ailffocysu’n dyner ar rywbeth yn y presennol, fel anadlu.