Ffisiotherapi a Chlefyd Parkinson
Mae asesiad a chymorth ffisiotherapi ar gael yn yr adran Ffisiotherapi Niwroleg i Gleifion Allanol. Gallwch chi gael eich cyfeirio gan eich meddyg teulu neu arbenigwr, neu gallwch hunangyfeirio. Mae’n rhaid i chi gael diagnosis niwrolegol i gael mynediad i’r gwasanaeth hwn.
Mae ymarfer corff yn rhan bwysig iawn o reoli Clefyd Parkinson ac rydym yn cynnig cyngor a chefnogaeth er mwyn teilwra hyn i chi, sy’n bwysig hyd yn oed os mai symptomau ysgafn iawn sydd gennych chi. Un o’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig yw dosbarth ymyrraeth gynnar Clefyd Parkinson.
- Mae Tîm Arbenigol Clefyd Parkinson Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro hefyd wedi cynhyrchu’r My Parkinson’s App, sy’n adnodd rhyngweithiol ar y we i rymuso a rhoi gwybodaeth i bobl sy’n byw gyda Chlefyd Parkinson a’u teuluoedd i helpu i reoli’r cyflwr.
Wrth i chi ddefnyddio adnoddau ymarfer corff ar-lein, rydym yn argymell:
- Gwyliwch neu ddarllenwch yr adnodd yn llawn bob amser cyn ei ddefnyddio. Dylech chi bwyso a mesur – ai dyma’r adnodd gorau i chi? A ydych chi’n hyderus y byddwch chi’n gallu gwneud yr ymarferion? Os mai ‘na’ yw’r ateb, yna dylech chi roi cynnig ar rywbeth rydych chi’n teimlo’n hyderus ag ef.
- Os ydych chi’n dilyn dosbarth am y tro cyntaf, rydym yn argymell gweithio’n raddol tuag at y dosbarth llawn. Dylech chi stopio’r fideo a gorffwys os oes angen.
- Gwnewch yn siwr nad oes rhwystrau o’ch cwmpas a bod gennych chi ddigon o le i wneud ymarfer corff yn ddiogel.
- Gosodwch arwyneb cadarn i gael gwell cynhaliaeth i’r corff os byddwch angen un. Mae’n bwysig gwisgo esgidiau cyfforddus a chadarn bob amser wrth ymarfer.
- Os byddwch chi wedi gwneud mwy o ymarfer corff nag arfer, mae teimlo’r cyhyrau wedi cyffio y diwrnod wedyn yn gyffredin. Bydd hyn yn lleihau wrth i chi ymarfer mwy. Fodd bynnag, os byddwch chi mewn poen, neu’n dioddef pendro neu ddiffyg anadl difrifol wrth wneud ymarfer corff, dylech chi roi’r gorau iddi yn syth.
Hefyd yn yr adran hon
Manylion Cyswllt
- Arbenigwyr Nyrsio Clefyd Parkinson Gerontoleg: 02920 313838
- Nyrs Arbenigol Clefyd Parkinson Niwroleg: 02920 743684
- Adran Therapi Iaith a Lleferydd i Oedolion: 02920743012
E-bost: cav.sltoutpatients@wales.nhs.uk - Cleifion Allanol Niwroleg Ffisiotherapi: 02921835321