Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Therapi Iaith a Lleferydd Cleifion Allanol

Mae’r gwasanaeth Therapi Lleferydd ac Iaith (SLT) Cleifion Allanol yn gweithio gyda chleifion sydd ag anawsterau lleferydd, iaith, cyfathrebu a llyncu ac mae wedi’i leoli mewn clinigau ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae apwyntiadau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal ar hyn o bryd mewn clinigau yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty Athrofaol Llandochau, Ysbyty Brenhinol Caerdydd ac Ysbyty’r Barri. Ar hyn o bryd rydym hefyd yn darparu gwasanaeth telefeddygaeth lle bo hynny’n bosibl, lle mae asesiadau a therapi’n cael eu cynnal drwy alwadau fideo.

Mae’r tîm Cleifion Allanol yn cynnig asesu, cynghori a rheoli anawsterau lleferydd, iaith, cyfathrebu a llyncu sy’n gysylltiedig ag ystod o gyflyrau.

Amlinellir rhai o’r cyflyrau hyn isod:

Anhwylder iaith/cyfathrebu yw dysffasia sy’n cael ei achosi gan newidiadau i ganolfan iaith yr ymennydd. Gall y newidiadau hyn gael eu hachosi gan:

  • Strôc
  • Anaf i’r pen
  • Tiwmor yr ymennydd
  • Salwch niwrolegol arall

Gall rhywun â dysffasia (a elwir weithiau yn Affasia os yw pob gallu iaith yn cael eu colli) gael anhawster gyda:

  • Siarad (dysffasia mynegiannol)
  • Deall (dysffasia derbyngar)
  • Darllen
  • Ysgrifennu
  • Defnyddio rhifau
  • Delio ag arian
  • Dweud yr amser

Rôl y therapydd Lleferydd ac Iaith yw gweithio gyda’r cleient i sefydlu eu nodau cyfathrebu unigol. Gall hyn gynnwys rhaglenni therapi dwys, therapi ar-lein a therapi sy’n gallu cael ei wneud gartref. Bydd y therapydd Lleferydd ac Iaith hefyd yn helpu i addysgu a chefnogi partner/gofalwr/teulu’r unigolyn er mwyn iddynt deimlo’n hyderus yn eu gallu i gefnogi gyda’u cyfathrebu.

Dolenni defnyddiol:

Anhwylder lleferydd yw dysarthria sy’n digwydd o ganlyniad i ddifrod i’r ymennydd drwy:

  • Strôc
  • Anaf trawmatig i’r ymennydd
  • Tiwmor yr ymennydd

Neu o ganlyniad i newidiadau i’r ymennydd drwy:

  • Glefyd Parkinson
  • Sglerosis Ymledol
  • Clefyd Niwronau Motor
  • Clefyd Huntington

Mae lleferydd dysarthrig yn aml yn aneglur ac yn anodd ei deall, er y gall y difrifoldeb amrywio o fod yn llai difrifol i ddifrifol iawn. Gall therapyddion Lleferydd ac Iaith helpu i addysgu strategaethau i wella eglurder lleferydd a gwella rhai symptomau sy’n gysylltiedig â dysarthria.

Dolenni defnyddiol:

Dysffagia yw’r term meddygol am anawsterau llyncu. Gall anawsterau llyncu godi o ganlyniad i nifer o wahanol gyflyrau a gallan nhw gyflwy hunain mewn nifer o wahanol ffyrdd.

Mae rhai cyflyrau sy’n gallu achosi dysffagia yn cynnwys:

  • Strôc
  • Clefyd Parkinson
  • Sglerosis Ymledol
  • Clefyd Huntington
  • Dementia
  • Anaf i’r Ymennydd
  • Adlif Asid
  • Parlys Bell

Mae rhai o’r anawsterau y gall pobl â dysffagia eu profi yn cynnwys:

  • Anhawster cnoi bwyd
  • Colli bwyd neu hylif o’r geg
  • Pesychu ar fwyd neu hylif
  • Bwyd yn glynu yn y gwddf
  • Teimlad o dagu
  • Ailchwydiad (dod â bwyd/hylif yn ôl i fyny)
  • Colli pwysau
  • Heintiau rheolaidd ar y frest
  • Diffyg anadl ar ôl llyncu

Mae therapyddion Lleferydd ac Iaith yn asesu ac yn rheoli anawsterau llyncu mewn lleoliadau cleifion allanol. Yn ystod eich apwyntiad, bydd y therapydd Lleferydd ac Iaith yn cymryd hanes manwl o’ch anawsterau llyncu a bydd yn cynnal asesiad llyncu nad yw’n fewnwthiol.

Gwneir cyngor ac argymhellion yn dilyn eich asesiad ar sut i reoli eich anawsterau llyncu.

Gellir darparu ymarferion a strategaethau er mwyn gwella neu wneud iawn am anawsterau llyncu. O bryd i’w gilydd, bydd angen i bobl â dysffagia wneud addasiadau i’w deiet a’u hylifau er mwyn ei gwneud yn haws iddyn nhw fwyta ac yfed. Bydd eich therapydd Lleferydd ac Iaith yn trafod yr opsiynau gyda chi yn fanwl fel y gallwch wneud penderfyniad gwybodus ynghylch sut y byddwch yn rheoli eich bwyta a’ch yfed.

Mae angen i rai pobl gael ymchwiliadau pellach yn dilyn asesiad llyncu cychwynnol a byddan nhw’n cael eu cyfeirio am brawf Fideofflworosgopeg (fideo pelydr-x o’r llwnc). Os oes angen hyn arnoch yn dilyn eich apwyntiad cychwynnol, bydd y therapydd Lleferydd ac Iaith yn trafod yr hyn fydd yn digwydd yn fanylach gyda chi.

Os ydych yn teimlo bod gennych broblem llyncu ac angen mewnbwn gan therapydd Lleferydd ac Iaith, gallwch ofyn am atgyfeiriad gan eich Meddyg Teulu, Ymgynghorydd neu feddyg/nyrs arbenigol. Fel arall, gallwch hunangyfeirio at ein gwasanaeth drwy ffonio 029 2074 3012 neu e-bostio cav.sltoutpatients@wales.nhs.uk.

Dolenni defnyddiol:

 

Mae problemau niwrolegol yn digwydd o ganlyniad i ddifrod i’r system nerfol, fel anaf i’r ymennydd, madruddyn y cefn neu’r nerfau. Gall problemau niwrolegol ddigwydd o ganlyniad i anaf sydyn i’r system nerfol e.e. strôc neu anaf i’r pen, neu gall fod o ganlyniad i anhwylder cynyddol lle bydd y problemau’n gwaethygu dros amser.

Gall problemau niwrolegol arwain at amrywiaeth o anawsterau a fydd yn dibynnu ar pa ran o\r system nerfol yr effeithiwyd arni. Gall problemau niwrolegol achosi newidiadau yng ngweithrediad y cyhyrau, lleferydd, iaith (siarad a deall), llyncu a chyfathrebu cymdeithasol.

Mae therapi lleferydd ac iaith yn fuddiol iawn i oedolion sydd â phroblemau niwrolegol.

Gall y rhain gynnwys:

  • Clefyd Parkinson (PD)
  • Sglerosis Ymledol (MS)
  • Strôc
  • Parlys yr Ymennydd
  • Anaf Trawmatig i’r Ymennydd (TBI)
  • Clefyd Huntington (HD)

Bydd therapydd Lleferydd ac Iaith yn darparu cynlluniau triniaeth unigol wedi’u teilwra i anghenion a galluoedd penodol pob cleient. Bydd y math o driniaeth sy’n cael ei rhoi yn dibynnu ar lawer o ffactorau gan gynnwys achos sylfaenol y broblem niwrolegol, difrifoldeb y broblem, a pha ran o’r system nerfol yr effeithiwyd arni yn ogystal â nodau’r cleient ei hun.

Dolenni defnyddiol

Credir bod atal dweud yn gyflwr niwrolegol sy’n ei gwneud yn anodd yn gorfforol i siarad. Efallai y bydd rhywun sydd ag atal dweud yn ailadrodd, estyn neu’n mynd yn sownd ar rai synau neu eiriau. Efallai y bydd arwyddion o densiwn i’w gweld hefyd wrth i’r person ymdrechu i ddweud y gair.

I hyd at 3% o oedolion, mae atal dweud yn gyflwr gydol oes. Does dim cysylltiad rhwng atal dweud a chapasiti deallusol, ac does a wnelo hyn ddim â diffygion yng nghymeriad rhywun. Mae’n effeithio ar ddynion yn bennaf a phob ethnigrwydd. Mae’r ffordd y mae rhywun yn atal dweud yn gallu bod yn wahanol i rywun arall sy’n atal dweud ac i raddau gwahanol; i rai bydd cyfnodau o’u bywyd pan fyddan nhw’n atal dweud llai ac eraill pan fyddan nhw’n ei chael hi’n anodd siarad. Mae llawer yn gweld bod y cyflwr yn gwella wrth iddyn nhw fynd yn hŷn.

Gall therapydd Lleferydd ac Iaith gefnogi rhywun i fyw’n dda gyda’i atal dweud, gan ddarparu strategaethau therapi a rheoli unigol, wedi’u teilwra i anghenion penodol pob cleient. Bydd y math o driniaeth yn dibynnu ar nodau’r cleient ar gyfer therapi.

Dolenni defnyddiol:

Mae’r tîm Therapi Lleferydd ac Iaith Cleifion Allanol yn cynnig gwasanaeth i gleientiaid trawsryweddol sy’n canolbwyntio ar fenyweiddio neu wryweiddio’r llais.

Gall therapyddion Lleferydd ac Iaith eich cefnogi i ddod o hyd i’ch llais dilys mewn ffordd iach a diogel a chynnig asesiad, addysg, cyngor a strategaethau i’ch cefnogi drwy eich cyfnod o drawsnewid lleisiol.

Fel arfer, mae atgyfeiriadau i therapydd Lleferydd ac Iaith yn dod drwy’r Clinig Hunaniaeth Rhywedd yn Ysbyty Dewi Sant, fodd bynnag, gallwch hunangyfeirio neu ofyn am atgyfeiriad i’n gwasanaeth gan eich Meddyg Teulu os nad ydych dan ofal y Clinic Hunaniaeth Rhywedd ar hyn o bryd. 

Dolenni defnyddiol:

Dysffonia yw’r term meddygol am newidiadau annormal i’r llais. Efallai y bydd gan bobl sy’n profi dysffonia lais sy’n swnio’n grug, dan straen, gwan, anadlog, cras, neu gyfuniad o’r rhain. Gall pobl hefyd brofi newidiadau i’r ffordd y mae eu gwddf/blwch llais yn teimlo, gall hyn deimlo fel tynerwch, tensiwn cyhyrau, neu ddolur.

Gall dysffonia ddigwydd o ganlyniad i gael swydd sy’n gofyn i chi ddefnyddio’ch llais yn rheolaidd drwy gydol y dydd, er enghraifft, athro, gweithiwr canolfan alwadau, neu ganwr. Gall newidiadau llais ddigwydd hefyd oherwydd straen neu ffactorau emosiynol. Gall pobl sydd â chyflyrau meddygol penodol hefyd brofi dysffonia, gall y rhain gynnwys:

Os ydych wedi cael newidiadau i’ch llais sydd wedi parhau am fwy na phythefnos neu os oes gennych boen yn gysylltiedig â defnyddio’ch llais, dylech ymweld â’ch Meddyg Teulu i weld a oes angen atgyfeiriad i’r adran Clustiau, Trwyn a Gwddf (ENT).

Bydd y meddyg Clustiau, Trwyn a Gwddf yn trafod eich newidiadau llais gyda chi, yn cynnal asesiad o’ch blwch llais, yn gwneud diagnosis o’r rheswm dros y newidiadau, ac yn eich cyfeirio at y tîm therapi Lleferydd ac Iaith os hoffech gael rhagor o gefnogaeth i wella’ch llais. Ni allwch hunangyfeirio at yr adran therapi Lleferydd ac Iaith ar gyfer dysffonia gan na all y tîm therapi Lleferydd ac Iaith weithio gyda phobl â dysffonia nes iddynt gael eu gweld gan yr adran Clustiau, Trwyn a Gwddf.

Os cewch eich cyfeirio at yr adran therapi Iaith a Lleferydd, bydd apwyntiad unigol neu grŵp cychwynnol yn cael ei gynnig i chi yn dibynnu ar eich anghenion. Mae “therapi rhithwir” yn cael ei gynnig hefyd drwy ymgynghoriadau fideo. Yn ystod eich apwyntiad bydd y therapydd Lleferydd ac Iaith yn cymryd hanes manwl eich newidiadau llais a bydd yn cynnal asesiad o’ch llais.

Bydd y therapydd Lleferydd ac Iaith yn rhoi cyngor a gwybodaeth i chi, ac os bydd angen, yn gweithio gyda chi i sefydlu rhaglen o ymarferion y gallwch eu cwblhau gartref er mwyn gwella’ch llais.

Cyngor cyffredinol ar ofal llais:

  • Yfwch ddigon o ddŵr (6-8 gwydr y dydd)
  • Ceisiwch osgoi gormod o gaffein, ceisiwch newid i de decaf neu lysieuol
  • Peidiwch â bwyta prydau mawr cyn mynd i’r gwely gan y gall hyn achosi adlif asid pan fyddwch yn gorwedd i lawr
  • Ceisiwch osgoi clirio’ch gwddf yn ddiangen
  • Ceisiwch osgoi gweiddi neu godi’ch llais dros sŵn cefndir
  • Sylwch os gall unrhyw ffactorau emosiynol fod yn cael effaith ar eich llais
  • Ceisiwch gyngor meddygol gan eich Meddyg Teulu os ydych yn pryderu am newidiadau i’ch llais

Dolenni defnyddiol:

Manylion Cyfeirio:

Os ydych chi’n teimlo y byddech chi’n elwa o gael eich cyfeirio at y gwasanaeth Therapi Lleferydd ac Iaith Cleifion Allanol, cysylltwch â’ch Meddyg Teulu.

Fel arall, gallwch hunangyfeirio ar gyfer triniaethau penodol drwy ffonio 029 2074 3012
Fel arall, drwy gwblhau:

a dychwelyd i’Cav.Sltoutpatients@wales.nhs.uk.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content