Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Beth yw OAK Knee?

Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro rydym yn cynnig sesiwn o’r enw OAK (Options, Advice and Knowledge), ar gyfer rheoli osteoarthritis y pen-glin. Datblygwyd rhaglen OAK knee mewn cydweithrediad â meddygon teulu, llawfeddygon Orthopedig, Ffisiotherapyddion a phobl sydd ag osteoarthritis y pen-glin.

Mae ffisiotherapydd syn arbenigo mewn poen pen glin yn ddarparu rhaglen yma naill ai wyneb i wyneb mewn canolfan hamdden lleol neu dros y we ar Zoom.

Mae’r sesiynau hyn yn rhoi cyfle i bobl sydd wedi cael diagnosis o osteoarthritis y pen-glin ddysgu mwy am y cyflwr a’r gwahanol ffyrdd y gallwch reoli’r symptomau sy’n gysylltiedig ag ef yn effeithiol.

Rydym i gyd yn sylweddoli bod pobl yn wahanol; rydym yn mwynhau gwahanol bethau ac mae gennym nodau gwahanol yn ein bywydau. Yn yr un modd, mae osteoarthritis yn y pen-glin yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd. Felly, mae dod o hyd i’r triniaethau neu’r cynlluniau rheoli cywir i gyd-fynd â’ch anghenion yn bwysig.

Dyna pam, yn OAK, ein bod yn credu y dylech fod wrth wraidd y penderfyniadau ynghylch sut yr ydych am reoli eich pen-glin arthritig. Gwyddom fod pobl sy’n ymwneud â’r penderfyniadau hyn yn fwy tebygol o gymryd rhan yn y driniaeth a chael canlyniad mwy llwyddiannus.

  • Mae OAK knee yn ymwneud â rhannu gwybodaeth a phrofiadau a fydd yn eich helpu i wneud y penderfyniadau hynny.
  • Rydym nid yn unig yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am osteoarthritis, ond rydym hefyd yn dod â’r wyddoniaeth, sy’n dweud wrthym ba driniaethau sy’n ddiogel ac yn effeithiol i reoli osteoarthritis y pen-glin.
  • Mae’r sesiynau hefyd yn darparu gwybodaeth am ba wasanaethau sydd ar gael yn lleol i’ch helpu.
  • Yn bwysig, gallwch chi ac eraill ddod â’ch profiadau eich hun o osteoarthritis y pen-glin, sut mae’n effeithio arnoch chi a’r hyn sydd wedi bod yn effeithiol neu heb fod yn effeithiol yn eich amgylchiadau.

Os hoffech fynychu OAK gall eich meddyg teulu eich atyfeirio drwy’r Adran Ffisiotherapi i Gleifion Allanol.

Erbyn diwedd sesiwn OAK dylech fod â gwell dealltwriaeth o’r cyflwr, yr hyn rydych am ei wneud i’w reoli a sut i fynd ati i gael yr help sydd ei angen arnoch.

I gael rhagor o wybodaeth am yr opsiynau a fydd yn cael eu trafod, gweler isod:

Mae pen-glin newydd cyflawn a elwir hefyd yn arthroplasti, yn driniaeth lawfeddygol a gynigir i gleifion, pan fo eu harthritis yn mynd yn amhosibl ei rheoli. Fel arfer, bydd unigolyn ag arthritis wedi ceisio ei reoli gyda strategaethau eraill nad ydynt yn rhai llawfeddygol megis meddyginiaeth lleddfu poen, ymarfer corff, colli pwysau ac weithiau bigiad steroidau.

Mae llawdriniaeth pen-glin newydd cyflawn yn golygu amnewid arwynebau’r cymalau ar waelod asgwrn y glun (femur) a rhan uchaf asgwrn rhan isaf y goes – y grimog (tibia).

Yn dilyn llawdriniaeth ac yn yr ysbyty, bydd yr unigolyn yn dechrau ffisiotherapi ac yn cael ei arwain drwy ymarferion i ddechrau adennill symudiad a chael cyhyrau i weithio eto. Bydd yr ymarferion hyn yn bwysig i barhau â hwy am rai misoedd ar ôl llawdriniaeth a byddant yn cael eu cefnogi gyda chymorth ffisiotherapi cleifion allanol, bydd cymorth ar gael ar-lein yn bennaf.

Rhaglen OAK

Mae’r Rhaglen OAK yn rhaglen rithwir sy’n cael ei chynnal  ai wyneb i wyneb mewn canolfan hamdden lleol neu dros y we ar Zoom i gefnogi pobl â phoen y cymalau i reoli symptomau’n well a gwella gweithrediad y corff.

Mae’r sesiynau’n ar Zoom cynnwys cymryd rhan mewn sesiwn addysg grŵp o’ch cartref – peidiwch â phoeni, byddwn yn gallu eich cefnogi i sefydlu hyn.

Os hoffech fynychu’r rhaglen hon ffoniwch 02920 335717 i gael cadarnhad o’ch apwyntiad dros y ffôn.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content