Mae dros 900,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda math o arthritis neu boen cefn.
Mae Rhiwmatoleg neu Arthritis yn effeithio ar gymalau a chyhyrau. Mae’r traed yn cynnal pwysau corff hyd at chwe gwaith gyda phob cam ac mae’n bwysig amddiffyn cymalau traed bregus.
Dyma rai cyflyrau rhiwmatoleg sy’n gallu effeithio ar y traed:
Gall Podiatrydd helpu i leihau effaith cyflwr Rhiwmatolegol ar y traed, gyda chymorth amddiffyn cymalau, esgidiau a gofal traed, orthoses cefnogol (mewnwadnau) a gweithio gyda’r tîm Rhiwmatoleg ehangach i wella iechyd a lles.
Yn ystod apwyntiad Podiatreg byddwn yn gallu trafod yr hyn sy’n bwysig i chi ynghylch eich traed a gallwn weithio gyda chi i wella iechyd a swyddogaeth y traed.
Pan fyddwch chi’n dod i’ch apwyntiad Podiatreg, dewch â’r esgidiau rydych chi’n eu gwisgo amlaf, a ddylai gynnwys esgidiau caeedig.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.