Mae tarwden y traed yn haint ffwngaidd cyffredin ar y traed.
Mae cael tarwden y traed yn beth cyffredin ar unrhyw le ar y droed ond mae heintiau ffwngaidd yn tyfu’n arbennig o dda mewn mannau cynnes a llaith, rhwng y bysedd traed, er enghraifft.
Yn aml iawn, mae tarwden y traed yn edrych fel croen gwyn, rwber rhwng y bysedd traed neu ddarnau crawennog ar y traed. Weithiau mae pobl yn cael pothelli bach ar eu traed.
Fel arfer mae’n cosi ac yn gallu mynd yn boenus. Mae’r croen yn gallu cracio a gwaedu.
Gallwch brynu eli, chwistrellwyr a phowdrau mewn archfarchnadoedd a fferyllfeydd i drin tarwden y traed. Mae llawer o frandiau ar gael mewn gwahanol gryfderau. Gofynnwch i’r fferyllydd am gyngor ar y math gorau i chi.
Defnyddiwch yr eli am 1-2 wythnos ar ôl i’r haint fynd i wneud yn siwr na fydd yn dod yn ôl.
Os oes gennych chi broblem sydd ddim yn gwella fel y byddech yn ei ddisgwyl gyda hunanofal, cysylltwch â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cyngor. Gall fod yn feddyg teulu, fferyllydd, gwasanaeth podiatreg y GIG neu bodiatregydd preifat.
Gwnewch yn siŵr bod eich Podiatregydd wedi’i gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac edrychwch am y llythrennau HCPC ar ôl ei enw.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.