Poen Blaendroed – Niwroma Morton
Niwroma Morton yw dirywiad y nerf gwadnol cyffredin sydd o dan belen y droed hyd at y bysedd traed. Credir bod hyn yn digwydd o ganlyniad i straen hirdymor a phoen yn y nerf.
Mae nerf pelen y droed (y rhan sydd fel clustog o’r wadn, o dan y bysedd traed) yn cael ei binsio pan fyddwch yn cerdded ac yn rhedeg. Mae’r pinsio hwn yn achosi:
- poen fel saeth, trywaniad neu losgi ar belen y droed
- teimlad fel petai carreg fach yn sownd o dan eich troed
- teimlad ysol neu fferdod yn y bysedd traed
- chwydd, mewn achosion mwy poenus
Yn gyffredinol, mae’r symptomau’n gwaethygu pan fyddwch chi’n gwisgo esgidiau tynn neu sodlau uchel neu ar ôl gweithgaredd hir. Fel arfer, mae’n gwaethygu dros amser.
Mae achosion cysylltiedig yn cynnwys:
- bod dros bwysau
- bod ar eich traed am amseroedd maith
- esgidiau sydd ddim yn ffitio’n iawn neu esgidiau heb gynhaliaeth
- diffyg defnyddio’r traed yn gywir
- cyhyrau lloi tynn.
Mae symptomau Niwroma Morton yn gallu gwella gyda thriniaethau syml fel:
- gorffwyso’r droed
- rhoi pecynnau iâ ar y droed
- meddyginiaeth wrthlidiol – siaradwch â’r fferyllydd neu’r meddyg teulu i gael y cyngor gorau am hyn
- tylino’r bysedd traed a blaenau’r traed
Esgidiau
Gwisgo esgidiau call yw un o’r pethau pwysicaf i wneud. Mae angen sicrhau bod:
- eich esgidiau’n ffitio’n dda gyda digon o le i’r bysedd traed
- gan eich esgidiau lasys neu strap Velcro
- gan eich esgidiau wadnau anhyblyg i gyfyngu ar blygu’r cymalau, gyda siâp siglydd bach ar draws y blaendroed.
Rhaid osgoi:
- sodlau uwch na 25mm (1 fodfedd)
- esgidiau gyda blwch bys troed pigfain neu fas
- gwadnau hyblyg.
Ymarferion
Rhowch bêl dennis neu bin rholio ar y llawr, rhowch eich troed arno a rholiwch yn ôl ac ymlaen er mwyn tylino gwaelod eich troed.
Mewnwadnau
Mae mewnwadnau gyda chymorth metatarsal yn gallu helpu i gynnal y droed ac maen nhw ar gael i’w prynu dros y cownter.
Mae’n bwysig gwisgo’r mewnwadau yn raddol dros gyfnod o wythnos a rhoi’r gorau i’w defnyddio os oes gennych boen newydd.

Hefyd yn yr adran hon
Os oes gennych chi broblem sydd ddim yn gwella fel y byddech yn ei ddisgwyl gyda hunanofal, cysylltwch â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cyngor. Gall fod yn feddyg teulu, fferyllydd, gwasanaeth podiatreg y GIG neu bodiatregydd preifat.
Gwnewch yn siŵr bod eich podiatregydd wedi’i gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac edrychwch am y llythrennau HCPC ar ôl ei enw.