Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Cnapiau (bynions)

Sut i drin cnapiau

Does dim un o’r triniaethau hyn yn gwella cnapiau ond maen nhw’n debygol o leihau problemau eilaidd fel poen, bysedd traed gorlawn, anffurfiad pellach neu atal problemau gyda’r croen ar eich traed oherwydd pwysau’r esgid.

Os oes gennych chi gochni parhaus, gwres, poen a chwydd na allwch ei esbonio wrth wneud mwy o weithgareddau neu esgidiau’n rhwbio, gofynnwch am gyngor meddygol.

trainerY newid pwysicaf y gallwch chi ei wneud yw gwisgo esgidiau sy’n ffitio’n dda.

  • Dylech osgoi esgidiau â sodlau uchel, esgidiau cul neu rai pigfain a gwnewch yn siŵr nad oes semau’n rhwbio bysedd eich traed.
  • Mae’n well gwisgo esgidiau llydan gyda ffasnin, megis lasys neu strapiau.
  • Sicrhewch fod eich esgidiau yn cael eu mesur ar ran lletaf eich troed (ar draws y cnap).

Am ragor o wybodaeth, gweler y daflen sy’n rhoi cyngor ynghylch esgidiau.

Darn o silicon sy'n ffitio rhwng bysedd traed i leihau rhwbioOs gallwch chi sythu bawd eich troed yn hawdd heb achosi poen, efallai y byddwch yn elwa o ddefnyddio gwahanydd silicon.

Os ydych chi’n dewis defnyddio gwahanydd, sicrhewch eich bod yn ei ddefnyddio’n raddol dros gyfnod o wythnos a rhoi’r gorau i’w ddefnyddio os ydych chi’n dioddef poen newydd.

A gel bunion shield that goes around big toe to reduce frictionMae amddiffynwyr bynionau yn gallu bod yn addas os nad ydych chi’n gallu sythu cymalau bawd eich troed. Er nad ydyn nhw’n cywiro’r broblem, maen nhw’n gallu rheoli poen sy’n gysylltiedig â’r pwysau sy’n cael ei roi gan esgidiau. Maen nhw’n arbennig o ddefnyddiol os oes rhaid i chi wisgo esgidiau gwaith amddiffynnol.

Cofiwch, os yw eich cylchrediad yn wael, dylech siarad gyda phodiatrydd cyn defnyddio amddiffynwyr bynionau. Ddylech chi ddim eu gwisgo am fwy nag 20 munud ar y tro.

Red insoles to go inside shoesOs bydd eich traed yn cyrlio am i mewn, gall mewnwadnau fod yn ddefnyddiol i gefnogi’r traed. Gall eich podiatregydd argymell neu ddarparu mewnwadnau i chi. Dylech chi bob amser ddefnyddio mewnwadnau newydd yn raddol dros gyfnod o wythnos a rhoi’r gorau i’w defnyddio os oes gennych boen newydd.

Os ydych chi dros eich pwysau, mae’n bwysig iawn colli pwysau i lefel iach. Bydd hyn yn lleihau’r pwysau sydd ar eich traed a thrwy hynny leihau poen ac anffurfiad pellach.

Cliciwch yma am restr o fideos, adnoddau a dolenni defnyddiol i’ch helpu i ddewis sut i golli pwysau a gwneud dewisiadau iach.

Trafodwch y math priodol o feddyginiaeth lleddfu poen gyda fferyllydd neu feddyg teulu.

Os oes gennych chi broblem sydd ddim yn gwella fel y byddech yn ei ddisgwyl gyda hunanofal, cysylltwch â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cyngor. Gall fod yn feddyg teulu, fferyllydd, gwasanaeth podiatreg y GIG neu bodiatregydd preifat.

Gwnewch yn siŵr bod eich podiatregydd wedi’i gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac edrychwch am y llythrennau HCPC ar ôl ei enw.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content