Esgidiau
Dewis yr esgidiau cywir yw un o’r pethau pwysicaf i’w cael yn iawn pan fydd gennych boen traed a phigwrn. Yn union fel sylfaen adeilad, bydd popeth arall rydych chi’n ei wneud yn dibynnu ar ddefnyddio’r math cywir o esgid.
Nodweddion Esgidiau sy’n cael eu Hargymell
Bydd eich traed yn cael y gynhaliaeth orau os bydd eich esgidiau fel a ganlyn:

- Gwadn (gwaelod yr esgid) cadarn sydd ddim yn troi a phlygu yn y canol.
- Lasys neu strapiau Felcro i gau’r esgidiau a chadw’ch traed yn gadarn fel nad ydyn nhw’n llithro na rhwbio.
- Gwadn (gwaelod yr esgid) sy’n un darn neu’n uned barhaus gan mai hyn sydd orau ar gyfer cerdded a rhedeg.
- Digon o le (hyd a lled) yn y bocs traed i atal bysedd y traed rhag gwasgu a rhwbio.
- Sawdl is na 25mm neu 1 fodfedd o uchder.
- Rhan uchaf yr esgidiau wedi’i gwneud o ddeunydd cadarn ond ystwyth fel nad oes rhwbio ac er mwyn rhoi’r gynhaliaeth gywir.
Dylech chi osgoi:
- Esgidiau heb garrai a sliperi
- Esgidiau fflat, hyblyg, sydd ddim yn cynnal y droed neu sydd wedi treulio
- Esgidiau gyda sawdl a gwadn ar wahân
- Sodlau uchel
Esgidiau Gwadn-Siglo
Weithiau rydyn ni’n argymell esgidiau gwadn-siglo i helpu gyda phroblemau traed a phigwrn penodol. Yn bennaf, mae’r esgidiau hyn yn helpu i leihau pwysau ar flaen y droed ond maen nhw’n ddefnyddiol ar gyfer llawer o broblemau traed a phigwrn.
Mae ganddyn nhw sodlau trwchus sy’n meinhau o’r tu ôl i bêl blaen y traed tuag at y bysedd. Mae hyn yn caniatáu i’r esgid siglo ymlaen wrth i chi gerdded neu os ydych chi’n pwyso i lawr ar y bysedd traed.

Byddwch yn ofalus: Mae llawer o esgidiau yn cyrlio am i fyny wrth fysedd y traed. ‘Sbring blaen’ yw’r enw ar hyn ac mae’n helpu’ch troed i godi oddi ar y ddaear pan fyddwch chi’n cerdded. Os nad yw’r gwadn yn ddigon cadarn, ni fydd yr esgid yn gweithredu fel siglwr.
Esgidiau Newydd
Ddylech chi byth orfod ystwytho esgidiau newydd – os nad ydyn nhw’n gyfforddus pan fyddwch chi’n eu gwisgo am y tro cyntaf, dydyn nhw ddim yn iawn i chi.
Mae’n rhesymol gwisgo eich esgidiau newydd i’w meddalu ychydig am gyfnod. Mae hyn yn eich helpu i addasu i fath newydd o esgidiau nad ydych chi efallai wedi’u gwisgo o’r blaen.

Gallwch eu gwisgo o gwmpas y tŷ am gyfnodau byr (20-30 munud) i ddod yn gyfarwydd â nhw ac yna mae angen gwirio’ch traed. Chwiliwch am broblemau fel cochni ar ôl rhwbio neu bwysau. Os bydd hyn yn digwydd, gallwch eu dychwelyd fel arfer os nad ydyn nhw wedi baeddu neu wedi cael eu gwisgo yn yr awyr agored.
Os ydych chi’n hapus gyda’ch esgidiau newydd, dechreuwch eu gwisgo yn yr awyr agored am ychydig oriau ar y tro a chynyddu’r defnydd yn raddol.
Sut ydw i’n gwybod a yw fy esgidiau wedi’u treulio?
- Edrychwch ar draul, fel colli patrwm ar y gwadn allanol, gwadn wedi’i gywasgu a phwythau neu semau wedi torri.
- Mae esgid gadarn yn cynnal ei strwythur o dan bwysau cerdded a rhedeg er mwyn cynnal y droed. Rhowch droad cadarn i ran ganol gwadn yr esgid i weld pa mor dda mae’n cadw ei strwythur.
- Os yw esgidiau’n dangos traul mae’n well eu newid am rai newydd a’u taflu.
- Peidiwch â chael eich temtio i ddefnyddio hen esgidiau ar gyfer gwaith DIY neu arddio. Mae rheswm da pam eu bod nhw’n hen esgidiau!

Ble alla i brynu’r esgidiau rydych chi’n eu hargymell?
Dydyn ni ddim yn argymell un brand nac esgid benodol ond mae’r canlynol yn gallu bod yn ddefnyddiol:
- Ar gyfer ffit ehangach a lle ychwanegol – esgidiau DB neu Cosyfeet
- Ar gyfer sodlau siglo – JML Walkmaxx neu HOKA
- Am gynhaliaeth wych – Nike neu Grisport
