Cyrn a Chaledennau
Darnau caled neu drwchus o groen sy’n gallu bod yn boenus yw cyrn a chaledennau.
Maen nhw’n gallu ymddangos yn unrhyw le ar y traed lle mae pwysau neu rwbio, fel arfer dros eich cymalau.
Mae cyrn a chaledennau yn gallu digwydd pan na fydd siâp eich esgidiau yn gweddu i’ch traed neu oherwydd y ffordd y mae eich troed yn symud wrth i chi gerdded.
- Gofalwch nad yw eich esgidiau’n rhy dynn neu’n rhy llac a bod eu siâp yn gweddu i’ch traed. Mae lasys, byclau neu strapiau Velcro yn helpu i gadw’ch traed yn gadarn mewn esgid wrth i chi gerdded.
- Defnyddiwch eli lleithio bob dydd. Eli sy’n cynnwys ‘wrea’ sydd orau fel arfer. Gallwch eu prynu mewn archfarchnad neu fferyllfa.
- Rhwbiwch yr ardal yn ysgafn gyda charreg bwmis neu ffeil droed 1-2 gwaith yr wythnos.
- PEIDIWCH BYTH â defnyddio raseli neu offer miniog i dynnu’r croen.
- Mae mewnwadnau meddal yn gallu helpu.
Llun: Jmarchn, CC BY-SA 3.0, Wikimedia Commons

Hefyd yn yr adran hon
Os oes gennych chi broblem sydd ddim yn gwella fel y byddech yn ei ddisgwyl gyda hunanofal, cysylltwch â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cyngor. Gall fod yn feddyg teulu, fferyllydd, gwasanaeth podiatreg y GIG neu bodiatregydd preifat.
Gwnewch yn siŵr bod eich podiatregydd wedi’i gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac edrychwch am y llythrennau HCPC ar ôl ei enw.