Sodlau wedi Cracio (Agennau Sawdl)
Holltau neu’n graciau yn y croen sy’n ymddangos o amgylch y sawdl yw Agennau Sawdl, neu Sodlau wedi Cracio. Maen nhw’n gallu bod yn boenus dros ben.
Mae Agennau Sawdl yn fwy cyffredin os oes gennych groen sych a chaled o amgylch eich sodlau. Gwisgwch esgidiau cefn agored neu gerdded yn droednoeth.
Mae bod dros bwysau yn cynyddu eich siawns o gael sodlau wedi cracio oherwydd bod mwy o bwysau ar waelod eich sawdl.
- Dylech chi osgoi esgidiau ysgafn ac esgidiau heb gefnau (dylai hyn gynnwys sliperi os ydych yn eu gwisgo)
- Defnyddiwch eli lleithio bob dydd. Eli sy’n cynnwys Wrea yn aml yw’r un gorau i’w defnyddio. Gallwch chi brynu’r rhain mewn archfarchnadoedd neu o fferyllfeydd.
- Rhwbiwch y croen yn ysgafn gyda charreg bwmis neu ffeil droed 1-2 gwaith yr wythnos
- PEIDIWCH BYTH â defnyddio rasel neu offeryn miniog i dynnu’r croen
Llun: Marco Verch Professional Photographer, CC 2.0 Creative Commons Attribution 2.0 via Flickr

Hefyd yn yr adran hon
Os oes gennych chi broblem sydd ddim yn gwella fel y byddech yn ei ddisgwyl gyda hunanofal, cysylltwch â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cyngor. Gall fod yn feddyg teulu, fferyllydd, gwasanaeth podiatreg y GIG neu bodiatregydd preifat.
Gwnewch yn siŵr bod eich podiatregydd wedi’i gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac edrychwch am y llythrennau HCPC ar ôl ei enw.