Gofalu am eich Cymalau
Mae cyflyrau fel Arthritis Rhiwmatoid ac Osteoarthritis yn gallu achosi poen yn y cymalau. Pan fyddwch chi’n cael poen yn y cymalau, mae’r pethau rydych chi’n eu gwneud bob dydd yn gallu bod yn anodd a gwneud i’r boen deimlo’n waeth. Gallwch leihau’r straen ar eich cymalau drwy newid y ffordd rydych chi’n gwneud pethau bob dydd.
Dydy hyn ddim yn golygu peidio defnyddio’r cymalau. Drwy wneud newidiadau gallwch leihau’r straen arnyn nhw. Mae hyn yn lleihau poen a llid ac mae’n gallu eich helpu i deimlo’n llai blinedig.
Mae’r fideos canlynol yn dangos sut y gallwch leihau’r straen ar eich cymalau.
Gwneud tasgau bob dydd yn annibynnol
Mae ein tîm o Therapyddion Galwedigaethol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi gwneud fideos sy’n dangos sut y gallwch chi wneud pethau’n wahanol neu ddefnyddio teclyn i’ch helpu i reoli tasgau bob dydd yn haws.
Rheoli tasgau bob dydd
O dorri llysiau i agor jariau