Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Ymarferion Cryfder a Chydbwysedd

Gall y rhaglen ymarfer corff hon helpu i wella eich cydbwysedd, eich cryfder, eich ffitrwydd cyffredinol a’ch llesiant.

Er mwyn bod yn effeithiol, dylech gwblhau’r ymarferion a argymhellir gan eich therapydd BOB DYDD neu o leiaf 3 gwaith yr wythnos.

Gwyliwch y fideo rhagarweiniol hwn cyn rhoi cynnig ar unrhyw un o’r ymarferion hyn 

  • Cofiwch fynd ar eich cyflymder eich hun. Does dim rhaid cwblhau’r ymarferion i gyd ar unwaith.
  • Mae’n arferol teimlo rhywfaint o stiffrwydd yn eich cymalau a phoen yn y cyhyrau, bydd hyn yn lleihau wrth i chi ddod yn fwy cyfarwydd ag ymarfer corff.
  • PEIDIWCH Â RHUTHRO’R YMARFERION, cymerwch eich amser a gorffwyswch yn ôl yr angen.
  • DIOGELWCH: Peidiwch byth ag ymarfer gan ddal gafael ar wrthrych a allai symud; fel cadair neu ffrâm zimmer. Defnyddiwch rywbeth sefydlog fel wyneb cwpwrdd cegin bob amser.
  • Os byddwch yn teimlo mwy o boen, pendro, poen yn y frest neu ddiffyg anadl difrifol wrth ymarfer corff, STOPIWCH ar unwaith a chysylltwch â’ch Meddyg.
Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content