Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Beth sy’n digwydd ar ôl i chi adael yr ysbyty ar ôl cael llawdriniaeth clun

Byddwch chi’n cael rhif cyswllt y ward pan fyddwch chi’n gadael yr ysbyty. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, pryderon neu broblemau, mae croeso i chi ffonio’r ward. Gall y ffisios, y nyrsys a’r therapyddion galwedigaethol eich cynghori beth i’w wneud. Y rhif cyswllt ar gyfer y staff therapi ward yw 02921 825807. 

Gwyliwch y fideo hwn i weld sut y gallwch chi helpu eich hun i wellan gynt ar ôl mynd adref. 

Ymarferion

Mae’n bwysig parhau i wneud eich ymarferion a chynyddu’n raddol faint rydych chi’n gerdded yn ystod y dydd. Pan fyddwch chi’n teimlo’n barod, dechreuwch ddefnyddio un o’r baglau yn lle dwy. Byddem yn argymell defnyddio’r un fagl ar yr ochr arall i’r goes sydd wedi derbyn y llawdriniaeth. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn fwy cytbwys.  

Mae mwy o wybodaeth am ddefnyddio cymhorthion cerdded yma yn ogystal â chanllawiau ar sut i fynd i fyny ac i lawr y grisiau.

Rhoi cymhorthion ac offer yn ôl

Os cawsoch chi fenthyca offer (er enghraifft, offer i godi oddi ar y toiled, baglau), pan na fyddwch yn eu defnyddio ar ôl eich llawdriniaeth, trefnwch i’w dychwelyd er mwyn i rywun arall gael eu defnyddio.  

Apwyntiadau Dilynol

Does dim angen ffisiotherapi parhaus ar y rhan fwyaf o bobl ar ôl cael clun newydd ond os ydych chi’n cael ffisiotherapi, parhewch nes eich bod chi a’ch ffisiotherapydd yn hyderus eich bod chi’n gallu symud ymlaen. 

Mae llawer o opsiynau er mwyn gwella eich ffitrwydd ymhellach a chael y gorau o’ch clun newydd.  Mae’r rhain yn cynnwys cymryd rhan mewn dosbarthiadau canolfannau hamdden, grwpiau rhithwir a grwpiau cymorth. 

Manylion Cyswllt

Ffôn: 07971 980 219   
E-bost: cavtando.physio@wales.nhs.uk

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content