Cael y gorau o’ch diwrnod
Beth sy’n gallu helpu?
Mae’n fuddiol meddwl am ffyrdd callach o wneud pethau drwy weithio wrth eich pwysau. Yn hytrach na bod poen yn eich rheoli, rydych chi’n gallu teimlo fel bod gennych chi fwy o reolaeth, sy’n eich helpu i gael y gorau o’ch diwrnod.
Beth yw gweithio wrth eich pwysau?
Mae gweithio wrth eich pwysau yn dechneg sy’n cael ei dysgu i helpu pobl i ymdopi â phoen.
Y cam cyntaf yw cydnabod pa weithgareddau rydych chi’n eu gwneud bob dydd sy’n aml yn achosi i chi deimlo’n flinedig. Ar ôl i chi nodi’r rhain yna rydych chi’n gallu mynd ati i newid y ffordd rydych chi’n gwneud y pethau hyn a rhoi’r strategaethau canlynol ar waith i helpu.
- Trefnwch eich hun a chael gwared ar annibendod.
- Cadwch bethau o fewn cyrraedd.
- Cadwch bethau yn yr un lle bob amser – er mwyn osgoi treulio amser ac egni yn chwilio amdanyn nhw.
- Cynlluniwch eich diwrnod fel bod gennych chi amser i wneud y pethau rydych chi eisiau eu gwneud fwyaf.
- Ceisiwch flaenoriaethu tasgau sy’n bwysig neu’n hanfodol.
- Os oes angen, gofynnwch am help gan deulu, ffrindiau neu gymdogion.
- Cymerwch eich amser
- Cymerwch seibiant bob hyn a hyn yn ystod tasg.
Hefyd yn yr adran hon
Manylion Cyswllt
Ffôn: 07971 980 219
E-bost: cavtando.physio@wales.nhs.uk