Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Paratoi’n Dda ar gyfer llawdriniaeth i gael clun newydd

Darganfod sut y gallwn ni eich helpu chi i ofalu amdanoch eich hun a chadw’n iach cyn y llawdriniaeth.

Rhaglen ragsefydlu chwe wythnos i helpu pobl i baratoi ar gyfer llawdriniaeth

Pan fydd pobl yn fwy heini ac wedi’u paratoi’n well, maen nhw’n gwella’n gynt ar ôl eu llawdriniaeth ac yn teimlo’n well. Mae’n gallu helpu i leihau cymhlethdodau hefyd. Gallwn ni eich cefnogi chi mewn sawl ffordd er mwyn eich paratoi chi’n feddyliol ac yn gorfforol ar gyfer llawdriniaeth.

Mae’r rhaglen orthopedeg Paratoi’n Dda yn sesiwn wythnosol dros chwe wythnos i helpu pobl i ofalu am eu cymalau a pharatoi eu cyrff a’u meddyliau cyn llawdriniaeth.  Mae pob wythnos o’r rhaglen yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ac ymarfer sy’n seiliedig ar weithgaredd. Mae’r sesiynau yn cael eu cyflwyno mewn grwpiau mewn canolfannau hamdden lleol gan y tîm Paratoi’n Dda ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Os ydych chi wedi cael apwyntiad cynfynediad ond heb dderbyn gwybodaeth am y rhaglen Paratoi’n Dda, cysylltwch â ni ar 07971 980 219 neu e-bostiwch cavtando.physio@wales.nhs.uk.

Bwyta’n dda

Beth yw bwyta’n iach a sut allwch chi wneud newidiadau? 

Cael y gorau o’ch diwrnod

Gwneud pethau’n raddol

Materion meddylfryd

Ymlacio, cysgu ac ymwybyddiaeth ofalgar

Byw’n iach

Codi ymwybyddiaeth o ddewisiadau alcohol, ysmygu a dewisiadau ffordd o fyw

Byw gyda’ch clun newydd

Sut i fanteisio i’r eithaf ar eich clun newydd

Rhan o’ch paratoadau ar gyfer eich llawdriniaeth fydd mynychu sesiwn gwybodaeth i gleifion yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Mae hyn yn wahanol i sesiynau rhagsefydlu eraill y gallech chi fod wedi’u gwneud ac mae eich ymgynghorydd yn argymell yn gryf eich bod yn mynychu’r sesiwn addysg hon i wella llwyddiant eich llawdriniaeth.   

Mae’r dosbarth addysg i gleifion yn sesiwn sy’n llawn gwybodaeth i chi am eich taith. Bydd yn eich helpu i ddeall sut i gymryd rhan yn eich gofal; cyn, yn ystod, ac ar ôl eich llawdriniaeth. Bydd y sesiwn yn eich annog a’ch helpu chi i gymryd cyfrifoldeb am eich adferiad a’ch adsefydlu.

Mae’r cynllunio yn gallu cynnwys gofyn i ffrindiau a theulu helpu gyda phethau o amgylch y tŷ, fel siopa, glanhau a pharatoi prydau bwyd i chi. Ceisiwch baratoi eich tŷ cyn i chi ddod i’r ysbyty. 

Pethau i’w hystyried: 

  • Tynnwch rygiau sy’n gallu bod dan draed o amgylch y tŷ rhag ofn i chi gwympo. 
  • Ceisiwch lenwi’r rhewgell gyda bwyd wedi’i baratoi ymlaen llaw sy’n hawdd ei goginio. 
  • Gosodwch bethau rydych chi’n eu defnyddio’n aml mewn lle hawdd i’w gyrraedd, e.e. cwpanau ger y tegell a phethau mewn lle cyfleus, e.e. ar fwrdd gweithio yn y gegin sydd ar uchder eich gwasg neu ar silffoedd is. 
  • Gwnewch y gwelyau a glanhewch y tŷ cyn dod i’r ysbyty am lawdriniaeth, gan adael digon o le i symud o gwmpas. 
  • Trafodwch gyda’ch teulu neu ffrindiau os gallan nhw eich helpu gartref a threfnu pwy fydd yn eich casglu o’r ysbyty. 
  • Os ydych chi’n ofalwr i rywun arall, meddyliwch sut i gael help gyda’r cyfrifoldebau hynny.
  • Os oes gennych chi anifail anwes, meddyliwch pwy all ofalu am yr anifail anwes tra byddwch chi yn yr ysbyty ac am gyfnod byr ar ôl hynny. 

Rhan fach o’r adferiad yw’r llawdriniaeth ei hun – chi sy’n gwneud y gwaith caled! 

Byddwch yn barod a darllenwch yr wybodaeth ar y wefan hon ac unrhyw wybodaeth y mae eich llawfeddyg neu ffisiotherapydd wedi’i rhoi i chi. Bydd hyn yn eich helpu i wybod beth i’w ddisgwyl a bydd o fudd i’ch adferiad.

Manylion Cyswllt

Ffôn: 07971 980 219   
E-bost: cavtando.physio@wales.nhs.uk

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content