Byw gyda’ch clun newydd
Mae hyn yn ymwneud â mynd yn ôl i normalrwydd ar ôl eich llawdriniaeth (neu, gobeithio, yn well na normal!).
Byddwch yn realistig gyda’ch disgwyliadau a gwrandewch ar eich corff. Mae gwella yn gallu bod yn broses i fyny ac i lawr, sy’n normal ac yn ddisgwyliedig.
- Mae’r ward yn gallu darparu nodyn ffitrwydd am x6 wythnos.
- Ystyriwch ddychwelyd i’r gwaith yn raddol.
- Meddyliwch am addasiadau sy’n gallu cael eu gwneud sy’n benodol i chi a’ch swydd. Ystyriwch a fyddai’n bosibl addasu eich rôl ar gyfer eich cyfnod adfer.
- Os ydych chi’n gweithio y tu ôl i ddesg am gyfnodau hir, gwnewch yn siŵr eich bod yn symud yn aml. Ewch am dro byr o amgylch y swyddfa neu’r ardd yn rheolaidd drwy gydol y dydd os ydych chi’n gweithio gartref.
- Trafodwch eich gwaith yn ystod eich apwyntiad 6 wythnos dilynol gyda’ch meddyg ymgynghorol.
- Dylech chi ddechrau gyda thaith gerdded fer – anelwch am bostyn lamp sy’n agos i’ch cartref i gerdded ato ac yn ôl – yna mynd ymhellach bob hyn a hyn.
- Cofiwch y bydd yn rhaid i chi gerdded yn ôl bob amser, waeth pa mor bell yr ydych chi’n cerdded.
- Ceisiwch osgoi palmentydd gyda rhew arnyn nhw.
- Rydych chi’n gallu ailddechrau gyrru pan fyddwch chi’n gallu plygu eich pen-glin yn ddigon i fynd i mewn ac allan o’r sedd yrru a rheoli’r car yn iawn. Mae hyn yn cynnwys stopio’r car ar frys.
- Mae hyn fel arfer tua 6-8 wythnos ar ôl eich llawdriniaeth, ond dylech chi drafod hyn yn ystod eich apwyntiadau dilynol gyda’ch meddyg ymgynghorol neu eich ffisiotherapydd.
- Dylech chi roi gwybod i’ch darparwr yswiriant am eich llawdriniaeth gan fod pob polisi yn wahanol.
- Dylech chi wirio’r amseroedd ac efallai dechrau gyda thaith fer.
- Bydd defnyddio sedd sydd ar gael yn gallu bod yn fwy cyfforddus.
- Am y tri mis cyntaf dylech chi allu gwneud tasgau ysgafn fel dwstio a golchi llestri.
- Dylech chi osgoi tasgau trymach fel hwfro neu newid dillad y gwely yn y tri mis cyntaf.
- Dylech chi geisio osgoi sefyll am gyfnodau hir rhag ofn i’ch pigwrn chwyddo.
- Dylech chi ddechrau gyda’r sedd a’r cyrn wedi’u codi.
- Yn ystod eich apwyntiad claf allanol dylech chi ofyn i’ch ffisiotherapydd pryd fydd yr amser iawn i chi ailddechrau beicio.
- Dylech chi sicrhau bod eich clwyf wedi gwella’n llwyr ac yn sych rhag cael haint.
- Dylech chi ddechrau gyda strôc coes syth (strôc flaen/cefn yn hytrach na nofio broga).
- Efallai y byddai’n haws mynd i mewn i bwll rydych chi’n gallu cerdded i mewn iddo yn hytrach na dringo i lawr grisiau.
- Dylech chi ystyried mynd gyda chwmni i ddechrau.
- Dylech chi ddechrau gydag arferion ysgafn a monitro sut rydych chi’n teimlo ar ôl hynny.
- Mae llawer o bobl yn teimlo’n bryderus am gael rhyw ar ôl llawdriniaeth – dylech chi siarad am eich pryder gyda’ch partner.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd tabledi lladd poen yn rheolaidd.
- Dylech chi osgoi penlinio am 6 wythnos a chadw’ch cyfyngiadau symud mewn cof.
Grwpiau Ffitrwydd Lleol a Chanolfannau Hamdden
Mae gwefan Dewis Cymru yn adnodd gwych sy’n rhoi gwybodaeth i chi am wasanaethau lleol i helpu i gefnogi eich iechyd a’ch llesiant. Er enghraifft, chwiliwch am “grwpiau cerdded” a rhoi eich cod post er mwyn cael rhestr o grwpiau cerdded lleol a’u manylion cyswllt.
Mae Hyfforddiant Ymarfer Corff EXTEND yn ddosbarthiadau ymarfer corff ysgafn sy’n ceisio gwella eich ffitrwydd a’ch symudedd a chynyddu’ch annibyniaeth. Mae dosbarthiadau o amgylch Caerdydd a Phenarth. Cliciwch yma i ddod o hyd i leoliadau ac amseroedd.
Mae sesiynau Ymarfer Corff i’r Henoed ar gyfer pobl dros 50 oed. Mae dosbarthiadau yn cael eu cynnal o amgylch Caerdydd, Penarth a’r Barri. Rydych chi’n gallu dod o hyd i fanylion am amseroedd, lleoliadau a sut i archebu lle yma.
Hefyd yn yr adran hon
Manylion Cyswllt
Ffôn: 07971 980 219
E-bost: cavtando.physio@wales.nhs.uk