Cwyr Clustiau

Mae cwyr yn secretiad pwysig a naturiol a geir yn y glust. Mae cwyr yn helpu i ddiogelu’r glust rhag bacteria, gan helpu i atal heintiau.

Fel arfer, mae cwyr clustiau’n disgyn allan o’r glust ar ei ben ei hun. Fodd bynnag, weithiau gall cwyr gronni yn yn nhiwb y glust sy’n achosi pigyn clust, colli clyw, cosi, Tinitws, neu bendro.

Os ydych chi’n credu y gallai fod gennych chi gwyr clustiau, nad ydych wedi cael llawdriniaeth ar y clustiau ac nad oes gennych chi dwll ym mhilen y glust, gallwch chi ei reoli â diferion meddalu.

Rhoi diferion meddalu

Gallwch chi ddefnyddio diferion meddalu bob wythnos i reoli’r croniad o gwyr clustiau. Mae arbenigwyr yn awgrymu defnyddio naill ai olew olewydd, olew almon, dŵr hallt neu ddiferion sodiwm deucarbonad. Pa un bynnag o’r hylifau argymelledig hyn y byddwch chi’n ei ddefnyddio, dylai fod ar dymheredd yr ystafell. Efallai y bydd yn haws (os yw’n bosibl) gofyn i rywun arall roi’r diferion yn eich clustiau i chi.

  1. Gorweddwch ar y gwely â’ch clust yn wynebu i fyny tua’r nenfwd.
  2. Tynnwch y glust yn ôl ac i fyny’n ofalus i agor a sythu corn y glust. Bydd hyn yn galluogi’r diferion i fynd yn ddyfnach i gorn y glust.
  3. Rhowch DDAU ddiferyn o’r hylif yng nghorn y glust.
  4. Gollyngwch eich clust a thylinwch y cartilag ar flaen eich clust yn dyner i helpu i gaenu corn y glust â’r diferion.
  5. Gorweddwch â’r glust rydych wedi’i thrin yn wynebu ar i fyny am o leiaf bum munud i ganiatáu i’r diferion gael eu hamsugno.
  6. Rhowch ychydig bach o wlân cotwm yn y rhan allanol o’ch clust am ryw ddeng munud i atal y diferion rhag llifo allan.
  7. Ailadroddwch y broses yn yr ail glust, yn ôl yr angen.

Dulliau ar gyfer cwyr clust NAD ydynt yn cael eu hargymell

NID yw’r defnydd o ffyn gwlân cotwm, matsis neu glipiau gwallt yn cael eu hargymell fel ffordd i gael gwared ar gwyr clustiau. Gall y rhain achosi difrod a haint yn y glust a gallant wneud y rhwystr yn waeth. NID yw rhoi cannwyll yn y glust (neu cannwyll clust Hopi) yn cael ei argymhell chwaith fel dull o drin cwyr clustiau. Gall arwain at losgiadau ac mae astudiaethau wedi dangos nad yw’n cael gwared ar gwyr clustiau.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content