Tinitws
Nid yw tinitws yn glefyd neu’n salwch, ond yn hytrach, dyma’r enw a roddir i synhwyro synau yn y pen a/neu’r glust. Gall y synau fod fel tincial cloch, hisian, suo, sŵn dŵr, neu chwibanu, neu gall fod yn rhyw sŵn arall yn gyfan gwbl, neu gall swnio fel cerddoriaeth.
Gan amlaf achosir Tinitws gan golli clyw, neu’n fwy penodol, gan ddifrod i’r organ clyw neu’r llwyb clyw. Os hoffech i’ch tinitws gael ei ymchwilio ymhellach, yn enwedig os yw e mewn un glust yn unig, neu os ydych yn credu bod eich tinitws yn mynd yn drech na chi, gofynnwch i ymarferydd gofal iechyd eich cyfeirio i’r Adran Awdioleg ar gyfer apwyntiad gyda gweithiwr proffesiynol sydd wedi’i hyfforddi’n arbennig.
Os yw tinitws yn cael effaith ar eich iechyd meddwl, edrychwch ar ein hadnoddau iechyd meddwl neu siaradwch â’ch ymarferydd gofal iechyd.
Mae’r gwefannau canlynol yn rhoi rhagor o wybodaeth am tinitws:
- Cymdeithas Tinitws Prydain yw’r brif ffynhonnell o gymorth a gwybodaeth i bobl â tinitws yn y DU. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys taflenni gwybodaeth hawdd eu darllen ar gyfer cleifion sydd ag anableddau dysgu.
- Mae gwefan Take on Tinnitus yn adnodd ardderchog ar gyfer deall tinitws, gan ddarparu ffeithiau a syniadau am sut i’w reoli.
- Mae’r app rhad ac am ddim tinnitus relief yn cynnig cyfuniad o gyfoethogi synau, ymarferion ymlaciol, myfyrdod a chanllawiau.