Lymffoedema
Beth yw Lymffoedema?
Mae Lymffoedema’n chwydd parhaus mewn unrhyw ran o’r corff ond mae’n cael ei weld yn fwy cyffredin yn y breichiau a’r coesau. Mae’r chwydd hwn yn gasgliad o hylif o fewn y meinweoedd o dan y croen na ellir ei ddraenio gyda nodwydd.
Mae’r hylif hwn, o’r enw lymff, yn ddi-liw ac di-arogl ond mae’n gyfoethog mewn protein. Mae’r protein uchel hwn yn achosi sychder y croen, sy’n gallu arwain at blisgio, tewhau a phothelli. Os na chaiff ei drin, gall cymhlethdodu megis hylif yn gollwng, wlserau, clwyfau a llid yr isgroen (cellulitis) ddigwydd.
Mae’n ffaith, wrth i chi fynd yn hŷn, fod gennych risg uwch o ddatblygu lymffoedema.
Mae’r system lymffatig yn gweithio’n agos gyda’r system gylchredol. Mae’n draenio hylif drwy’r nodau lymff a’r gwythiennau yn ôl i’r galon a’r arennau. Mae nodau lymff yn debyg i orsafoedd ailgylchu – mae’r holl hylif yn cael ei wirio ar gyfer heintiau er mwyn rhybuddio mecanwaith amddiffyn y corff. Felly, mae’r system lymffatig yn chwarae rhan bwysig o ran atal ac ymladd haint, dileu celloedd marw neu annormal a gormod o broteinau.
Mae dau fath o lymffoedema:
- Cynradd
- Eilaidd
Yn y dolenni isod, mae ffilmiau gwybodaeth byr am reoli lymffoedema, sydd wedi’u creu a’u hadolygu gan glinigwyr y GIG ledled y DU: