Dyma ail sesiwn y rhaglen orthopedeg Paratoi’n Dda.
Yn y sesiwn hon o’r Rhaglen Orthopedeg Paratoi’n Dda, rydym yn meddwl am ffyrdd doethach o gyflawni pethau drwy weithio wrth eich pwysau. Yn hytrach na bod poen yn eich rheoli, rydych chi’n gallu teimlo fel bod gennych chi fwy o reolaeth, sy’n eich helpu i gael y gorau o’ch diwrnod.
Mae gweithio wrth eich pwysau yn dechneg sy’n cael ei dysgu i helpu pobl i ymdopi â phoen.
Y cam cyntaf yw cydnabod pa weithgareddau rydych chi’n eu gwneud bob dydd sy’n aml yn achosi i chi deimlo’n flinedig. Ar ôl i chi nodi’r rhain yna rydych chi’n gallu mynd ati i newid y ffordd rydych chi’n gwneud y pethau hyn a rhoi’r strategaethau canlynol ar waith i helpu.
Ymunwch â ni yn y Rhaglen Orthopedeg Paratoi’n Dda i drafod y cynnwys hwn ymhellach ac i ddysgu sut y gallwch chi fanteisio i’r eithaf ar eich diwrnod.
Ffôn: 07971 980 219
E-bost: cavtando.physio@wales.nhs.uk
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.