Mae ambell ymddygiad ac arfer yn gallu cael effaith sylweddol ar eich iechyd.
Yn y sesiwn hon rydym yn siarad am sut mae gwneud newidiadau bach, cadarnhaol yn gallu bod o fudd mawr a’ch helpu i fyw bywyd hirach ac iachach. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fyddwch chi’n paratoi ar gyfer llawdriniaeth, i’ch gwneud yn fwy heini, yn gryfach ac yn fwy parod yn seicolegol ar gyfer y llawdriniaeth.
Mae ambell ymddygiad rydych chi’n gallu eu newid er gwell, er enghraifft:
- Ysmygu llai neu stopio ysmygu
- Symud mwy ar eich corff
- Bwyta bwydydd iach
- Lleihau faint o alcohol rydych chi’n ei yfed
- Cael yr holl frechiadau perthnasol
Ymunwch â ni yn y Rhaglen Orthopedeg Paratoi’n Dda i drafod y cynnwys hwn ymhellach a sut i fyw’n iachach.