Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Materion Meddylfryd

Dyma drydydd sesiwn y Rhaglen Orthopedeg Paratoin Dda.  

Yn y sesiwn hon, rydym yn siarad am sut mae eich meddylfryd yn effeithio ar sawl agwedd ar eich bywyd a’ch llesiant, a sut i ddatblygu agwedd feddyliol dda. 

Pam mae eich meddylfryd yn bwysig? 

Mae paratoi meddyliol yr un mor bwysig â pharatoi’n gorfforol. Yn union fel cryfhau cyhyrau i fod yn gryfach ac yn fwy heini, mae angen i ni ymarfer a pharatoi ein meddyliau i fod yn fwy gwydn. Mae’n ffordd o gael ein meddwl yn barod i ymdopi â straen posibl y byddwn yn ei wynebu.   

Yn y sesiwn Materion Meddylfryd, rydym yn trafod sut rydych chi’n gallu defnyddio anadlu bocs i’ch helpu i ymlacio. Byddwn hefyd yn awgrymu apiau sy’n olrhain cwsg, myfyrdod a thechnegau anadlu rydych chi’n gallu eu harchwilio a’u defnyddio yn eich amser eich hun.   

Mae rhagor o wybodaeth am ymwybyddiaeth ofalgar a llesiant meddyliol ar gael yma, gan gynnwys dolenni defnyddiol a thechnegau ymlacio. 

Ymunwch â ni yn y Rhaglen Orthopedeg Paratoin Dda i drafod y cynnwys hwn ymhellach a sut mae meddylfryd yn bwysig. 

Manylion Cyswllt

Ffôn: 07971 980 219   
E-bost: cavtando.physio@wales.nhs.uk

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content