Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Beth i’w ddisgwyl pan fyddwch chi yn yr ysbyty i gael llawdriniaeth pen-glin newydd

Os ydych chi’n dod i mewn i gael llawdriniaeth, efallai y bydd yr wybodaeth yma yn help i chi. Cafodd ei hysgrifennu gan Gymdeithas Orthopedeg Prydain ar gyfer pobl sy’n aros am lawdriniaeth cymalau newydd a llawdriniaethau orthopedeg eraill. Mae’n rhoi atebion i gwestiynau cyffredin am ddod i mewn ar gyfer llawdriniaeth a COVID-19.

Defnyddiwch fynedfa’r Parth Gwyrdd (sydd wedi’i nodi â seren las a melyn).

Cardiff and Vale UHB Map

Dylech chi ddod â dillad cyfforddus fel trowsus llac neu sgert ac esgidiau ymarfer corff neu esgidiau call eraill gyda chefnau; mae esgidiau ychydig yn fwy nag arfer yn ddefnyddiol rhag ofn y bydd eich traed wedi chwyddo ar ôl y llawdriniaeth.

Os oes gennych chi offer i’ch helpu, dewch â’r rhain i mewn, er enghraifft:

  • cyrn esgidiau gyda choes hir
  • codwr coesau
  • chymhorthion cerdded.

Beth i’w ddisgwyl

Ar ddiwrnod eich llawdriniaeth, bydd sawl aelod o staff gan gynnwys y nyrs sy’n gofalu amdanoch chi a’r meddygon yn dod i’ch asesu. Byddwch chi’n cael eich asesu gan ffisiotherapydd a fydd yn edrych ar gryfder a symudiad eich pen-glin ac egluro’r ymarferion a’r drefn y dylech chi eu dilyn ar ôl y llawdriniaeth. Byddan nhw’n rhoi ffrâm ‘zimmer’ i chi ei defnyddio ar ôl eich llawdriniaeth.  

Mae’n arferol teimlo rhywfaint o boen ac anesmwythyd. Byddwch yn cael meddyginiaeth i helpu hyn. Mae’n bwysig eich bod yn dilyn cyngor eich nyrs ac yn cymryd y feddyginiaeth boen yn rheolaidd, gan y bydd hyn yn eich helpu chi i wella.

Wedi i chi fynd yn ôl i’r ward ar ôl y llawdriniaeth a dod dros effeithiau’r anesthetig, bydd ffisiotherapydd neu nyrs yn eich helpu i godi o’r gwely. Y tro cyntaf i chi godi ar ôl eich llawdriniaeth, y nod fydd eistedd mewn cadair a cherdded pellter byr gyda ffrâm gerdded. Fydd pawb ddim yn gallu gwneud hyn, ond byddwch yn cael cynghori sut i wneud yr hyn sydd orau i chi. Bydd bagiau iâ ar gael i’w rhoi ar eich pen-glin i helpu’r boen a lleihau’r chwyddo.

Gallwch chi ddechrau symud eich coes a dechrau’r ymarferion a gawsoch chi gan y ffisiotherapyddion.

Dros y dyddiau nesaf, mae’n bwysig eich bod yn codi ac yn gwisgo bob dydd. Byddwch chi’n cerdded mwy gyda ffisiotherapydd ac os gallwch, byddwch chi’n symud i ddefnyddio baglau penelin.

Ymarferion

Bydd ffisiotherapydd yn adolygu eich ymarferion gyda chi, ond mae’n bwysig eich bod chi’n ymarfer y rhain ar eich pen eich hun hefyd.

Y nod cyn cael eich rhyddhau yw eich bod chi’n gallu:

  • plygu eich pen-glin i 90 gradd
  • codi eich coes yn syth oddi ar y gwely

Os ydych chi’n barod gallwch chi adael yr ysbyty unrhyw bryd o ddiwrnod 1, ond mae pawb yn wahanol. Mae angen mwy o amser ar rai pobl.

  • Cyn i chi gael eich rhyddhau byddwch:
  • yn hyderus gyda phopeth sydd angen i chi ei wneud gartref
  • yn cerdded yn ddiogel (fel arfer gyda baglau)
  • wedi cael pelydr-x y bydd y llawfeddyg yn ei adolygu
  • yn cael eich adolygu gan y tîm llawfeddygol i wneud yn siŵr bod eich clwyf yn iach ac yn gwella’n dda
  • wedi cwblhau ymarfer ar y grisiau
  • yn cael eich cyfeirio at therapydd galwedigaethol os oes angen help neu offer ychwanegol arnoch
  • yn cael eich cyfeirio ar gyfer gwaith dilynol ffisiotherapi. Dylech chi barhau â’ch ymarferion nes i chi gael eich adolygu.

Cliciwch yma am arweiniad pellach ar ddefnyddio cymhorthion cerdded ac ymdopi â grisiau.

Manylion Cyswllt

Ffôn: 07971 980 219   
E-bost: cavtando.physio@wales.nhs.uk

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content