Dyma sesiwn gyntaf y rhaglen orthopedeg Paratoi’n Dda.
Mae’r ‘Canllaw Bwyta’n Iach’ a gafodd ei gynhyrchu gan Lywodraeth Cymru yn 2018 yn argymell bwyta deiet amrywiol a chael y cydbwysedd cywir rhwng carbohydradau, ffrwythau a llysiau, protein a bwydydd llaeth. Mae hefyd yn tynnu sylw at yfed digon o ddŵr a bwyta llai o siwgr, halen a brasterau afiach.
Mae’n ein helpu i:
• Gyflawni a chynnal pwysau iach
• Gwella iechyd y perfedd a’r esgyrn
• Gwella ein hiechyd meddwl a’n llesiant cyffredinol drwy wella imiwnedd, hwyliau, lefelau egni a chof.
• Lleihau’r risg o gyflyrau fel clefyd y galon, pwysedd gwaed uchel, strôc, diabetes, a rhai mathau o ganser.
Mae fitamin D yn helpu i reoli faint o galsiwm a ffosfforws sydd yn y corff. Mae’r mwynau hyn yn helpu i gynnal esgyrn, cyhyrau a dannedd iach.
Mae ychydig o fitamin D ar gael mewn rhai bwydydd penodol yn ein deiet ond fel arfer nid yw hyn yn ddigon i fodloni’r swm dyddiol a argymhellir sef 10μg (microgramau) y dydd. Rydym yn cael y rhan fwyaf o’r fitamin D sydd ei angen arnom o olau’r haul.
Argymhellir bod pawb yn ystyried cymryd ychwanegion fitamin D (10μg bob dydd) yn yr hydref a’r gaeaf. Mae’r rhain yn gallu cael eu prynu heb bresgripsiwn. Dylai grwpiau risg uchel – dros 65 oed, pobl sy’n gorchuddio’u croen, neu sy’n gaeth i’r tŷ, pobl o gefndiroedd Affricanaidd, Asiaidd neu’r Dwyrain Canol – eu cymryd drwy gydol y flwyddyn. Mae’n bwysig peidio â chymryd mwy na’r swm a argymhellir (oni bai bod eich meddyg yn ei gyfarwyddo) gan y gall gormod o fitamin D fod yn niweidiol.
Mae bwyta’n dda ar ôl cael llawdriniaeth yn bwysig ar gyfer adferiad ac adsefydlu. Bydd angen maeth ychwanegol ar eich corff i’w atgyweirio a’i wella, hyd yn oed os ydych dros bwysau.
Mae protein a fitamin C yn arbennig o bwysig. Ymhlith y ffynonellau protein deietegol mae cig, pysgod, caws, wyau, ffa, cnau, soia, ffacbys a chorbys. Y dos dyddiol o fitamin C sy’n cael ei argymell i oedolion yw 40mg (miligramau) ac rydych chi’n gallu cael hwn o’ch deiet mewn amrywiaeth eang o ffrwythau a llysiau.
Yn ystod y cyfnod adfer cynnar, ceisiwch fwyta 3 phryd y dydd a byrbrydau rhwng prydau bwyd. Os ydych chi’n ddiabetig mae bwyta byrbryd carbohydrad cyn amser gwely yn arbennig o bwysig. Mae’r byrbrydau sydd ar gael ar y wardiau yn cynnwys grawnfwyd, tost, bisgedi plaen, a brechdanau bach.
Mae’n bwysig yfed digon o ddŵr yn enwedig ar ôl eich llawdriniaeth – anelwch at 6-8 gwydraid y dydd. Mae dŵr, diod ffrwythau, sudd ffrwythau, llaeth, te a choffi i gyd yn dderbyniol.
Gall bwydydd ffibr uwch fel bara gwenith cyflawn, grawnfwydydd grawn cyflawn a digon o ddŵr helpu i leddfu unrhyw rwymedd ar ôl eich llawdriniaeth.
Os ydych chi’n teimlo’n gyfoglyd ar ôl y llawdriniaeth, ceisiwch fwyta bwydydd bach plaen a byrbrydau fel tost, cracers, bisgedi plaen. Yfwch ddiodydd maethlon yn aml. Peidiwch â mynd yn hir heb fwyd. Gall stumog wag wneud i chi deimlo’n waeth.
Ymunwch â ni yn y Rhaglen Orthopedeg Paratoi’n Dda i drafod y cynnwys hwn ymhellach a sut i fwyta’n dda.
Ffôn: 07971 980 219
E-bost: cavtando.physio@wales.nhs.uk
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.