Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Ymarfer corff sy’n seiliedig ar weithgaredd

Mae pob sesiwn or Rhaglen Orthopedeg Paratoin Dda yn cynnwys ymarfer corff syn seiliedig ar weithgaredd.  

Cyn i chi ddod i mewn i gael llawdriniaeth, mae’n bwysig cadw mor actif â phosibl. Dylech chi geisio gwneud yr hyn rydych chi’n teimlo sy’n dderbyniol i chi, gan adeiladu’n raddol wrth i chi deimlo’n abl.

Mae rhai ymarferion yn gallu helpu i gadw’r symudiad a’r cryfder yn eich clun a’ch pen-glin. Bydd y dolenni canlynol yn cynnwys fideos gyda chyngor ac ymarfer corff y gallwch chi roi cynnig arnynt cyn dod i mewn i gael llawdriniaeth.

Os ydych chi’n aros am lawdriniaeth pen-glin ac eisiau arweiniad a chyngor pellach ar reoli poen ac ymarfer corff, efallai eich bod yn addas i fynychu ein rhaglen poen ESCAPE.

Os ydych chi’n cael trafferth cadw’n heini ac yn teimlo y gallai fod yn fuddiol siarad â ffisiotherapydd, neu’n teimlo efallai y bydd angen asesiad gyda chymorth cerdded oherwydd poen, darllenwch ein tudalen Ffisiotherapi Cleifion Allanol Cyhyrysgerbydol am fanylion ar sut i hunangyfeirio

Manylion Cyswllt

Ffôn: 07971 980 219   
E-bost: cavtando.physio@wales.nhs.uk

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content