Beth sy’n digwydd ar ôl i chi adael yr ysbyty?
Byddwch chi’n cael rhif cyswllt y ward pan fyddwch chi’n gadael yr ysbyty. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, pryderon neu broblemau, mae croeso i chi ffonio’r ward. Gall y ffisios, y nyrsys a’r therapyddion galwedigaethol eich cynghori beth i’w wneud. Y rhif cyswllt ar gyfer y staff therapi ward yw 02921 825807.
Ymarferion
Mae’n bwysig parhau i wneud eich ymarferion a chynyddu’n raddol faint rydych chi’n gerdded yn ystod y dydd. Pan fyddwch chi’n teimlo’n barod, dechreuwch ddefnyddio un o’r baglau yn lle dwy. Byddem yn argymell defnyddio’r un fagl ar yr ochr arall i’r goes sydd wedi derbyn y llawdriniaeth. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn fwy cytbwys.
Mae mwy o wybodaeth am ddefnyddio cymhorthion cerdded yma yn ogystal â chanllawiau ar sut i fynd i fyny ac i lawr y grisiau.
Rhoi cymhorthion ac offer yn ôl
Os cawsoch chi fenthyca offer (er enghraifft, offer i godi oddi ar y toiled, baglau), pan na fyddwch yn eu defnyddio ar ôl eich llawdriniaeth, trefnwch i’w dychwelyd er mwyn i rywun arall gael eu defnyddio.
- Er mwyn cael gwybod sut i ddychwelyd cymhorthion cerdded (baglau, fframiau ‘zimmer’ ac ati) cliciwch yma. .
- I drefnu dychwelyd offer (ffrâm toiled, comodau, cadis ar gyfer fframiau ‘zimmer’, offer codi dodrefn) ffoniwch naill ai Heol Penarth (Y Fro) 02920 712555 neu Llanisien (Caerdydd) 02920 873672.
Apwyntiadau Dilynol
Daliwch i fynychu eich apwyntiadau dilynol nes eich bod chi a’r tîm adsefydlu yn hyderus y gallwch chi symud ymlaen i’r ‘camau nesaf’.
Bydd eich tîm adsefydlu yn siarad â chi am y ‘camau nesaf’ a sut y gallwch chi barhau i gael y gorau o’ch pen-glin newydd. Mae’r opsiynau’n cynnwys mynd i ddosbarthiadau canolfannau hamdden, grŵp rhithwir a grŵp cymorth.
Hefyd yn yr adran hon
Manylion Cyswllt
Ffôn: 07971 980 219
E-bost: cavtando.physio@wales.nhs.uk