Yn y sesiwn hon bydd rhywun sydd wedi cael llawdriniaeth pen-glin newydd yn dod i sgwrsio â ni.
Dyma gyfle i chi ofyn cwestiynau i’r tîm ac i rywun sydd wedi bod drwy lawdriniaeth i gael pen-glin newydd.
Byddwch chi’n clywed sut beth yw hi mewn gwirionedd a chael awgrymiadau a chyngor er mwyn paratoi ac adfer ar ôl eich llawdriniaeth.
Ymunwch â ni ar gyfer y Rhaglen Orthopedeg Paratoi’n Dda i drafod y cynnwys hwn ymhellach a sut i baratoi’n dda.