Ein nod yw gwella ansawdd bywyd gofalwyr a’r rhai sy’n derbyn gofal yn ein bro, gan helpu gofalwyr i wneud y mwyaf o’u bywyd ochr yn ochr â’u rôl ofalgar, yn ogystal â chefnogi eu hannibyniaeth.
Mae ein tîm o Weithwyr Lles Gofalwyr yn:
Mae gennym Banel Arbenigol Gofalwyr sy’n gwrando ar syniadau, barn a phrofiadau uniongyrchol gofalwyr di-dâl ac yn eu rhannu. Mae rôl aelodau’r panel yn wirfoddol ac yn ddi-dâl ond mae’n gyfle i chi ddweud eich dweud a siapio gwasanaethau yng Nghaerdydd a’r Fro.
Fel arfer mae cyfarfodydd panel yn cael eu cynnal yn fisol ar-lein dros Zoom ac yn para rhyw awr. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn cyfarfodydd yn y dyfodol, gallwn drefnu i chi gael copi o’r agenda, copi o gofnodion y cyfarfod diwethaf a gwahoddiad cyswllt Zoom i’r cyfarfod nesaf.
Mae’r gwasanaeth hwn yn gwasanaethu Bro Morgannwg a Chaerdydd.
Mae ein gwasanaeth cwnsela yn y Fro yn cefnogi gofalwyr di-dâl 18 oed neu hŷn sy’n gofalu am aelod o’r teulu neu berthynas â dementia hwyr-oes neu broblemau iechyd meddwl.
Mae ein gwasanaeth ar draws Caerdydd yn agored i bob atgyfeiriad cwnsela i ofalwyr di-dâl 18 oed neu hŷn. Rydyn ni’n cynnig hyd at 10 sesiwn o gwnsela rhad ac am ddim dros y ffôn, yn rhithwir a/neu wyneb yn wyneb.
Rydyn ni’n cynnal Grŵp Cymheiriaid Cefnogi Gofalwyr misol yn y Barri, i ofalwyr sy’n byw yng Nghaerdydd a’r Fro. Mae’n gyfle i gyfarfod yn anffurfiol â gofalwyr eraill ac i drafod rolau gofalgar, hobïau a diddordebau.
Os ydych chi’n ofalwr neu os ydych chi’n gweithio gyda gofalwyr yng Nghaerdydd neu Fro Morgannwg, rydyn ni yma i’ch helpu.
Cysylltwch â’n tîm cyfeillgar ar 02921 921024 neu anfonwch e-bost at gateway@ctsew.org.uk
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.