Y Gwasanaeth Technoleg Gynorthwyol Electronig Cenedlaethol Cymru (NCEAT)
Mae Gwasanaeth Technoleg Gynorthwyol Electronig Cenedlaethol Cymru (NCEAT) yn darparu asesiadau ac offer ar gyfer anghenion cyfathrebu cymhleth, technoleg gynorthwyol ar gyfer mynediad at gyfrifiaduron a rheolaethau amgylcheddol i blant ac oedolion (mae rheolaethau amgylcheddol ar gael i bobl dros 14 oed).
Atgyfeiriadau
Rydym yn derbyn atgyfeiriadau ar gyfer cleifion sydd wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu yng Nghymru. Gall unrhyw aelod cofrestredig o’r Cyngor Proffesiynau Gofal Iechyd neu Weithiwr Meddygol Proffesiynol cofrestredig wneud yr atgyfeiriad.
Sut i Gyfeirio
Gallwch lawrlwytho copi o ffurflen atgyfeirio o’n gwefan, neu gallwch gysylltu â’r swyddfa am gopi wedi’i argraffu.
Bydd pob atgyfeiriad yn cael ei frysbennu gan ein tîm o weithwyr proffesiynol ac os caiff ei dderbyn, bydd llythyr apwyntiad yn cael ei anfon gyda manylion y rhai fydd yn mynychu’r cyfarfod.
Gall hyn gynnwys:
- Gwyddonwyr Clinigol
- Therapyddion Iaith a Lleferydd
- Therapyddion Galwedigaethol
- Technolegwyr Clinigol
- Hyfforddwyr Technegol
- Cynorthwywyr Therapi
Asesiad
Bydd y tîm yn cwblhau asesiad cynhwysfawr. Os bydd dyfais yn cael ei hargymell, bydd prawf yn cael ei drefnu cyn gynted ag y bydd yr offer ar gael.
Darpariaeth
Bydd cyfarpar yn cael ei ddarparu ar sail prawf. Os bydd yn llwyddiannus, bydd y ddyfais yn cael ei rhoi ar fenthyg parhaol i’r claf. Bydd argymhellion ar gyfer defnyddio’r ddyfais yn cael eu rhoi i weithwyr proffesiynol ategol.
Pan na fydd angen yr offer mwyach, bydd raid ei ddychwelyd i’r NCEAT.
Adolygu a Gwasanaethu
Bydd yr offer sy’n cael ei ddarparu yn cael ei wirio’n flynyddol. Bydd hyn yn cynnwys adolygu defnydd ac addasrwydd, a gwasanaeth diogelwch a chynnal a chadw.
Manylion cyswllt
Canolfan Genedlaethol Technoleg Gynorthwyol Electronig Cymru
Ysbyty Rookwood
Heol y Tyllgoed
Llandaf
Caerdydd
CF5 2YN
Ffôn: : 029 2021 3914 or 029 2021 3976