Haint ffwngaidd cyffredin ar y traed yw tarwden y traed.
Mae’r ffwng yn tyfu mewn lle cynnes, llaith, tywyll fel sanau ac esgidiau.
Rhai o symptomau Tarwden y Traed yw:
Y ffordd orau o drin Tarwden y Traed yw golchi’r traed yn ddyddiol ac yna eu sychu’n iawn, gan gynnwys rhwng y bysedd traed.
Gwisgwch hosanau/teits glân bob dydd. Golchwch hosanau, teits, dillad isaf a thywelion ar dymheredd uwch na 60°C.
Defnyddiwch eli, chwistrellau neu bowdr gwrthffyngol o’r fferyllfa leol.
Os oes gan eich plentyn broblem nad yw’n gwella fel y byddech chi’n disgwyl gyda hunanofal, dylech gysylltu â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cyngor. Gallai hyn fod yn feddyg teulu, fferyllydd, Gwasanaeth Podiatreg y GIG neu Bodiatrydd Preifat.
Gwnewch yn siwr fod eich podiatrydd wedi cofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac edrychwch am y llythrennau HCPC ar ôl ei (h)enw.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.