Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Rôl plentyn yn ei iechyd traed ei hun

Ysgogiad Cleifion

Dim ond rhan o’u taith at iechyd da yw’r gofal y mae plant yn ei dderbyn mewn lle gofal iechyd. Mae’r hyn y byddwn yn gallu annog plant i’w wneud drostyn nhw eu hunain yn chwarae rhan bwysig iawn er mwyn cadw’n iach. 

Mae Ysgogiad Cleifion yn disgrifio gwybodaeth, sgiliau a hyder unigolyn wrth reoli ei iechyd ai ofal ei hun.

Mae eich ysgogiad yn gallu eich helpu i wneud dewisiadau iechyd a ffordd o fyw positif. 

Os ydych chi’n deall y ffordd orau o ofalu amdanoch chi eich hun, rydych chi’n fwy tebygol o fyw bywyd iach a rheoli eich cyflyrau iechyd hirdymor yn well. 

Fel rhan o’r apwyntiad Podiatreg, efallai y byddwn yn gofyn i’ch plentyn gwblhau arolwg byr.  Bydd hyn yn ein helpu i ddeall y cymorth y gallai fod ei angen i reoli ei iechyd traed.
Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content