Arthritis Idiopathig Pobl Ifanc
Mae’n gyflwr sy’n achosi llid a chwyddo mewn un neu fwy o gymalau mewn plant o dan 16 oed. Dyma’r achos mwyaf cyffredin o arthritis cronig yn y DU, sy’n effeithio ar 1 o bob 1,000 o blant. Mae gan tua 12,000 o blant yn y DU Arthritis Idiopathig Pobl Ifanc.
Mae’n gallu amharu ar dwf o amgylch y cymal(au) sydd wedi cael eu heffeithio mewn plant sy’n tyfu.
Mae rhiwmatolegwyr yn asesu ac yn gwneud diagnosis o’r cyflwr.
Mae Arthritis Idiopathig Pobl Ifanc yn gallu effeithio ar y traed a’r coesau drwy achosi:
- gwahaniaeth yn hyd y coesau
- twf annormal y bysedd traed
- problemau cerdded
- anhawster ffitio esgidiau’n gyfforddus
Mae podiatrydd yn gallu helpu drwy asesu cerddediad plentyn.
Er mwyn lleddfu poen pengliniau, cluniau a phigyrnau mae podiatrydd yn gallu gweithio gyda chi i roi cyngor ar esgidiau, mewnwadnau neu sblintiau os oes angen. Nod y driniaeth yw rheoli’r symptomau er mwyn i’ch plentyn gael bywyd egnïol ac iach.
Os oes gan eich plentyn broblem nad yw’n gwella fel y byddech chi’n disgwyl gyda hunanofal, dylech gysylltu â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cyngor. Gallai hyn fod yn feddyg teulu, fferyllydd, Gwasanaeth Podiatreg y GIG neu Bodiatrydd Preifat.
Gwnewch yn siwr fod eich podiatrydd wedi cofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac edrychwch am y llythrennau HCPC ar ôl ei (h)enw.