Mae poen sawdl – sydd fel arfer yn cael ei achosi gan glefyd Sever – yn gyffredin mewn plant. Mae fel arfer yn digwydd ar ôl gwneud llawer o ymarfer corff. Mae’n cael ei weld yn aml mewn plant egnïol iawn.
Poen dros gefn neu waelod y sodlau. Efallai y bydd chwydd hefyd. Mae’n gallu digwydd mewn un droed neu’r ddwy.
Dyw esgyrn plant yn y traed ddim wedi’u ffurfio’n llawn ac mae ganddynt blatiau twf, wedi’u gwneud o gartilag, ar ddiwedd y droed. Gall y plât twf ar ddiwedd asgwrn y sawdl gael ei lidio gan chwaraeon nerthol sy’n gynnwys llawer o redeg neu neidio.
Mae’r boen yn gallu digwydd yn ystod hyrddiad o dyfu’n sydyn hefyd. Y rheswm am hyn yw bod esgyrn y coesau yn gallu cynyddu o ran hyd, cyn i gyhyrau isaf y coesau ddal i fyny. Mae’r cyhyrau coes isaf sy’n glynu wrth blât twf y sawdl yn tynnu ac yn achosi problemau i asgwrn y sawdl.
Fel arfer, mae poen sawdl yn cael ei ddiagnosio gan bodiatrydd ar ôl archwiliad a chael hanes clinigol y plentyn.
Fel arfer, mae’n gwella ohono’i hun o fewn ychydig wythnosau neu fisoedd gyda digon o orffwys. Gall esgidiau addas, mewnwadnau ac addasu gweithgareddau i gyd helpu.
Os oes gan eich plentyn broblem nad yw’n gwella fel y byddech chi’n disgwyl gyda hunanofal, dylech gysylltu â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cyngor. Gallai hyn fod yn feddyg teulu, fferyllydd, Gwasanaeth Podiatreg y GIG neu Bodiatrydd Preifat.
Gwnewch yn siwr fod eich podiatrydd wedi cofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac edrychwch am y llythrennau HCPC ar ôl ei (h)enw.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.